Myfanwy Talog

Myfanwy Talog
GanwydMyfanwy Talog Williams Edit this on Wikidata
31 Mawrth 1944 Edit this on Wikidata
Caerwys Edit this on Wikidata
Bu farw11 Mawrth 1995 Edit this on Wikidata
Swydd Buckingham Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata
PartnerDavid Jason Edit this on Wikidata

Actores o Gymru oedd Myfanwy Talog (31 Mawrth 194411 Mawrth 1995).[1]

Bywyd cynnar

Ganwyd Myfanwy Talog Williams yng Nghaerwys, gogledd-ddwyrain Cymru. Roedd ganddi frawd iau, Gwilym.

Hyfforddodd fel athrawes yng Nghaerdydd cyn cychwyn ar ei gyrfa ym myd y cyfryngau.

Gyrfa

Ymddangosai ar y rhaglen Gymraeg i blant, Teliffant, yn ystod y 1970au, yn ogystal â chwarae rhan Phyllis Doris yn y gyfres gomedi boblogaidd Ryan and Ronnie ar y BBC. Yn y 1980au ymddangosai yn yr opera sebon Gymraeg, Dinas, ar S4C, ac mewn sawl cyfres gomedi Saesneg ar y BBC, gan gynnwys Bread a The Magnificent Evans. Yn ddiweddarach, roedd yn fwy cyfarwydd i'r genhedlaeth ifanc fel lleisydd y gyfres cartŵn Wil Cwac Cwac.

Mae plac ar wal y tŷ yn Stryd Fawr Caerwys lle roedd hi'n byw.[2]

Bywyd personol

Roedd yn bartner i Syr David Jason ers i'r ddau gyfarfod yn y 1970au. Roedd Jason yn adnabod yr actores o Gymraes Olwen Rees wedi iddynt gyd-actio mewn addasiad ffilm o Under Milk Wood (1972). Yn 1977 daeth Jason i Gaerdydd i berfformio mewn drama a daeth Olwen Rees i wylio gyda'i ffrind Myfanwy. Syrthiodd y ddau mewn cariad a bu'r ddau yn bartneriaid am dros 18 mlynedd tan ei marwolaeth o ganser y fron.[3]

Cyfeiriadau

  1. "Index entry". FreeBMD. ONS. Cyrchwyd 21 December 2018.
  2. Myfanwy: Dadorchuddio plac BBC 31 Mawrth 2006
  3. Sir David Jason opens up on tragic romance with Welsh actress , WalesOnline, 13 Hydref 2013. Cyrchwyd ar 21 Rhagfyr 2018.
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.