Gŵyl lenyddol a ddiwylliannol yw Gŵyl Arall a gynhelir yn flynyddol nhref Caernarfon fel arfer ym mis Gorffennaf. Mae'n cynnwys amrywiaeth eang o sesiynau llenyddol, cerddorol, lansiadau llyfrau ac adloniant ysgafn megis comedi a choginio.
Hanes
Cynhaliwyd y Gŵyl Arall gyntaf yn 2009. Sefydlwyd hi gan Nici Beech a oedd wedi ei hysbrydoli gan ŵyl debyg yn Nhalacharn.[1] Cynhaliwyd digwyddiadau o fewn lleoliadau penodol megis Siop Lyfrau 'Plas Print' a Chlwb Canol Dre. Bydd mynychwyr yn talu wrth y drws i weld digwyddiadau unigol yn hytrach na phrynu tocyn ar gyfer yr holl ddigwyddiad (fel sy'n digwydd mewn digwyddiadau eraill, megis Eisteddfod Genedlaethol Cymru).
Datblygiad
Erbyn 2018 roedd yr Ŵyl wedi tyfu i gynnwys dros 50 o ddigwyddiadau a thros 15 o fandiau yn perfformio yn y castell hefyd, gan gynnwys Celt, Adwaih, Los Blancos a Candelas.
Cymraeg yw prif iaith yr ŵyl ond cynhelir sesiynau dwyieithog a Saesneg hefyd bellach.[2] Gellir prynu 'Tocyn Crwydro' sy'n rhoi gostyniad ar ddigwyddiadau yn hytrach na thalu'n unigol.
Bydd yr ŵyl yn codi nawdd masnachol a chorfforaethol i dalu am y digwyddiad.
Artistaid
Mae amrywiaeth eang iawn o gerddorion, beirdd, llenorion a pherfformwyr wedi cymryd rhan yn yr ŵyl ers ei sefydlu yn 2009.[3] Mae'n rhestr rhy hir i'w enwi. Dyma rai ohonynt: