Anturiaethwraig, athletwraig eithaf, jyni adrenalin, a chyflwynwraig deledu S4C yw Lowri Morgan. Daw yn wreiddiol o Abertawe a mynychodd Ysgol Gyfun Gŵyr[1] cyn parhau a'i hastudiaethau gan wneud gradd yng Ngherddoriaeth.
Bellach mae Lowri wedi mwynhau gyrfa fel cyflwynwraig ar raglenni chwaraeon, rhaglenni plant a rhaglenni dogfen, ac mae wedi ennill sawl gwobr. Mae'i gwaith teledu wedi'i galluogi i ymweld â llefydd megis diffeithdir Namib a lleoliadau pencampwriaeth ralio ryngwladol.
Mae hi hefyd yn un o 80 o bobl yn unig sydd wedi deifio i weld gweddillion y Titanic.[2]
Mae hi wedi cyhoeddi llyfr am ei hanturiaethau rhedeg.
Cyfeiriadau
Gwybodaeth o Gwales
|
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Lowri Morgan ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.
|