Llenor ac academydd o Gymru sy'n ysgrifennu yn y Saesneg a'r Gymraeg yw Francesca Rhydderch (ganed 10 Chwefror 1969 yn Aberystwyth). Cyhoeddwyd ei storïau byrion mewn cyfrolau a chylchgronau â'u darlledu ar BBC Radio 4 a BBC Radio Wales.[1]
Bywgraffiad
Ganed Francesca yn Aberystwyth, yn un o bedwar o blant. Ei chwaer yw'r llenor Samantha Wynne Rhydderch. Graddiodd mewn Ieithoedd Modern yng Ngholeg Newnham, Caergrawnt ac enillodd PhD mewn Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Aberystwyth.[2] Testun ei thraethawd oedd cymhariaeth rhwng llenyddiaeth Virginia Woolf a Kate Roberts.[3] Mae'n briod â'r academydd a'r llenor, Damian Walford Davies ac yn byw yng Nghaerdydd.
Gyrfa
Bu'n Olygydd Cynorthwyol y cylchgrawn Planet: The Welsh Internationalist a daeth yn Olygydd Cynorthwyol yn 1999.[4] Roedd yn olygydd y cylchgrawn llenyddol, New Welsh Review rhwng 2002 a 2008.[5] Yn 2015 golygodd hi a Penny Thomas y New Welsh Short Stories.[6] Bu'n olygydd y cylchgrawn trawsffiniol, Transcript.[7]
Bu'n Athro Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe ers 2015.[8]
Llyfryddiaeth Dethol
- The Rice Paper Diaries
- The Taxdermist's Daughter
- Cyfaill - drama am y llenor, Kate Roberts
- Dark Tonight (Gwasg Seren, 2018) cyfieithiad o nofel Kate Roberts, Tywyll Heno), 2018
Gwobrau
- Rhoddwyd The Rice Paper Diaries ar restr hir Gwobr Nofer Gyntaf Authors’ Club ac enillodd Wobr Llyfr y Flwyddyn Cymru (Saesneg) 2014.[9]
- Rhestrferwyd The Taxidermist’s Daughter ar gyfer y BBC National Short Story Award yn 2014.[10]
- Rhestrfewyd ei drama Gymraeg, Cyfaill ar gyfer Gwobr Beirniaid Theatr Dramodydd Gorau yn 2014.[11]
- Gwobrwywyd hi fel Cymrawd Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth yng Ngorffennaf 2015.[10]
Dolenni
Cyfeiriadau