Gwyneth ap Tomos![]() ![]() Ganwyd yr arlunydd Gwyneth ap Tomos (1937 – 5 Rhagfyr 2016[1]) yng Nghaeathro ger Caernarfon. Fe'i magwyd ar dyddyn bychan Tŷ Gwyn yn y pentref. Ni chafodd addysg ffurfiol fel arlunydd ond datblygodd i fod yn arlunydd tirluniau nodedig, yn arbenigo ar luniau o olygfeydd a ffermydd yn ei hardal enedigol. Gwerthai luniau trwy eu harddangos ar waliau'r Lee-ho, caffi ar gwch yn harbwr Caernarfon, lle roedd hi'n gweithio. Wedi priodi ei hail ŵr, Dafydd, a oedd ar y pryd yn werthwr pysgod - cyn mynd i gadw siop sglodion yng Nghaernarfon - prynodd y ddau fferm Traean yn y Dolydd, Llanwnda - er mwyn tyfu tatws ar gyfer y siop, yn ôl yr hanes. Prynodd y ddau Siop Sglodion XL, Pen-y-groes a rhedeg honno am rai blynyddoedd yn y 1960au a 1970au. Yno, datblygodd Gwyneth ei thalent fel artist, ond fe'i thrawyd hi efo canser yr ymennydd, a bu'n ddifrifol wael am gyfnod. Wedi gwrthod triniaeth radical, gwellhaodd hi ei hun trwy ddilyn cyngor llyseuol, gan fwyta llawer i bwys o foron bob dydd.[angen ffynhonnell] Ar ôl rhai blynyddoedd, gwireddwyd yr ysfa am gadw oriel oedd yn ei hysbrydoli trwy iddi hi a'i gŵr, Dafydd, brynu Plas Glyn-y-weddw er mwyn ei achub a'i hadfer fel oriel[2], a hynny pan oedd yr adeilad yn brysur fynd yn adfail. Gyda llawer o lafur cariad, fe agorwyd yr adeilad fel oriel gyhoeddus unwaith eto. Aeth y gost yn drech na chwpl preifat, ond sicrhaodd Gwyneth a Dafydd fod eu gweledigaeth yn parhau trwy drosglwyddo'r awenau i elusen. Fel teyrnged i Gwyneth a Dafydd, mae un o’r ystafelloedd arddangos yn y Plas wedi’i henwi'n 'Oriel ap Tomos' ac mae arddangosfa barhaol yn y Plas yn olrhain eu hanes yn atgyweirio’r adeilad ac agor yr oriel. Yn drist iawn, bu farw Gwyneth yn 2016, yn 79 oed, wedi ail frwydr gyda chanser a brofodd y tro hwnnw'n drech na hi.[3] Cyfeiriadau
|