Share to: share facebook share twitter share wa share telegram print page

Gwyneth Keyworth

Gwyneth Keyworth
Ganwyd15 Medi 1990 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Actores o Gymraes yw Gwyneth Anjuli Keyworth (ganwyd 15 Medi 1990). Fe'i ganwyd yn Aberystwyth a cychwynnodd actio mewn grŵp theatr Cymraeg lleol i bobl ifanc.[1] Aeth ymlaen i ymddangos gyda'r National Youth Theatre.[2]

Ers graddio o'r Academi Gelf Ddramatig Frenhinol, daeth yn fwyaf adnabyddus am ei rolau ar raglenni teledu Prydeinig, gan gynnwys Misfits a The Great Outdoors. Mae hi wedi cael rolau ffilm, gan gynnwys y ffilm arswyd canibalaidd Elfie Hopkins (2012) a drama gomedi 2014 Closer to the Moon. Mae hefyd wedi ymddangos mewn sioeau llwyfan, gan gynnwys cynhyrchiad y Globe o The Heresy of Love (2015) gan Helen Edmundson a chynhyrchiad o Little Shop of Horrors. Yn 2014, bu'n serennu yn y Vodka Diaries fel Periel ac, yn 2015, chwaraeodd Clea yn Nhymor 5 o gyfres HTC Game of Thrones.

Yn 2025 serennodd yn y ddrama drosedd Death Valley, a leolwyd a ffilmiwyd yng Nghymru.

Ffilmyddiaeth

Teledu

Blwyddyn Teitl Rôl
2009 Framed Marie Huges
2010 Royal Wedding Tammy Craddock
The Great Outdoors Hazel Stephens 3 pennod
The Sarah Jane Adventures Emily Morris 2 bennod: "Lost in Time: Parts 1 & 2"
2010–11 Misfits Marnie 2 pennod
2011 Midsomer Murders Bethan Pennod: "Death in the Slow Lane"
Case Histories Reggie Teague 2 pennod: "When Will There Be Good News: Parts 1 & 2"
2012 Loserville Laura
2014 Vodka Diaries Periel
The Suspicions of Mr Whicher Emma Finch
2015 Game of Thrones Clea Pennod: "High Sparrow"
2016 Doctor Thorne Lady Augusta Gresham 3 pennod
Plebs Agatha Pennod: "The Crime Wave"
Power Monkeys Jackie
Wasted Alison
Y Gwyll Beca Jones Cyfres 3, pennod 1
2017 Bang Ela 4 pennod
Black Mirror Nicola Pennod: "Hang the DJ"
2018 Craith / Hidden Megan Ruddock 8 pennod
2018–2019 Defending the Guilty Danielle 7 pennod
2019 The Crown Gwen Edwards Cyfres 3, pennod 3 "Aberfan"
2020 The Trouble with Maggie Cole Becka Cole 6 pennod
2021 Alex Rider Evelyn Anders 6 pennod
2024 Lost Boys and Fairies Becky 3 pennod
2025 Death Valley Janie Mallowan Prif ran[3]

Ffilm

Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
2010 Copier Stacey Ffilm fer. Cyfarwyddwyd gan Jessica Levick.
Jerusalem Angel Ffilm fer. Cyfarwyddwyd gan Ryan Andrews.
2011 Little Munchkin Margaret Ffilm fer. Cyfarwyddwyd gan Ryan Andrews.
2012 Elfie Hopkins Ruby Gammon Cyfarwyddwyd gan Ryan Andrews.
2014 Closer to the Moon Lidia Cyfarwyddwyd gan Nae Caranfil.
7.2 Mar Ffilm fer. Cyfarwyddwyd gan Nida Manzoor.
2017 The Master of York Chana Ffilm fer. Cyfarwyddwyd gan Kieron Quirke.
2021 Contraband Ruby Ffilm fer. Cyfarwyddwyd gan Anabel Barnston.
2022 Safe Word Girl Ffilm fer. Cyfarwyddwyd gan Ellie Heydon.
2024 Satisfaction Verity Ffilm fer. Cyfarwyddwyd gan Bailey Tom Bailey.

Cyfeiriadau

  1. Andrew Peters. "Gwyneth Keyworth". Essence (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 Ebrill 2020.
  2. Julie McNicholls Vale (18 Chwefror 2018). "Misfits and Black Mirror actress' advice for young actors". Cambrian News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 Ebrill 2020.[dolen farw]
  3. "BAFTA winner Timothy Spall leads cast for new murder mystery comedy drama Death Valley". bbc.co.uk/mediacentre. Cyrchwyd 21 May 2024.
Kembali kehalaman sebelumnya