Mae The Crown yn ddrama hanesyddol ar ffurf cyfres deledu a grëwyd ac ysgrifennwyd yn bennaf gan Peter Morgan a chynhyrchwyd gan Left Bank Pictures a Sony Pictures Television ar gyfer Netflix. Stori fywgraffyddol yw'r rhaglen am deyrnasiad Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig.
Canolbwyntia'r gyfres gyntaf ar y cyfnod o'i phriodas i'r Tywysog Philip, Dug Caeredin yn 1947 i chwaliad dyweddïad ei chwaer y Dywysoges Margaret i Peter Townsend yn 1955. Yn yr ail gyfres, y canolbwynt i ddechrau yw Argyfwng y Suez yn 1956 ac wedyn ymddeoliad trydydd Prif Weinidog y Frenhines, Harold Macmillan, yn 1963 a daw'r gyfres i ben gyda genedigaeth y Tywysog Edward yn 1964. Parheuiff y drydedd gyfres o 1964 yn canolbwyntio ar dau dymor Harold Wilson fel y Prif Weinidog tan 1976, tra bydd y bedwaredd gyfres yn gweld prifweinidogaeth Margaret Thatcher a ffocws ar Diana, Tywysoges Cymru.
Portreada Claire Foy y Frenhines yn y ddwy gyfres gyntaf, gyda Matt Smith fel y Tywysog Philip, a Vanessa Kirby fel y Dywysoges Margaret. Ar gyfer y drydedd a'r bedwaredd gyfresi, cymer Olivia Colman y rôl fel y Frenhines, gyda Tobias Menzies fel y Tywysog Philip, a Helena Bonham Carter fel y Dywysoges Margaret.
Cyfeiriadau