Ganed Guto yn Efrog, a threuliodd flynyddoedd fel milwr ym myddin Sbaen. Cyflwynwyd ef i Robert Catesby, arweinydd Cynllwyn y Powdr Gwn, gan y Cymro Hugh Owen. Fel milwr profiadol, roedd ei brofiad o bwysigrwydd mawr i lwyddiant yr ymgais. Fodd bynnag, cafwyd hyd i'r powdwr gwn oedd wedi ei osod mewn seler dan y Senedd cyn i Guto gael y cyfle i'w ffrwydro. Daliwyd ef a'r cynllwynwyr eraill a chafodd ei arteithio, ei gael yn euog o deyrnfradwriaeth a'i ddienyddio tri mis yn ddiweddarach. Ysgrifennai Ffowc ei enw cyntaf yn ei ffurf EidalegGuido, sy'n rhoi Guto yn Gymraeg.
Tan yn ddiweddar iawn arferai plant a phobl ifanc yng ngwledydd Prydain fynd o dŷ i dŷ ddechrau fis Tachwedd gyda Guto - dymi o ddyn wedi'i wneud o hen ddillad a gwellt - i hel pres at Noson Guto Ffowc. Ar y noson honno rhoddid y "Guto" ar ben y goelcerth a'i losgi.