Cymuned a ward etholiadol yn ninas Casnewydd yw Graig (Saesneg: Redwick). Saif yng nghornel ogledd-orllewinol y sir. Roedd poblogaeth y gymuned, sy'n cynnwys pentrefi Basaleg, Rhiwderyn, Pentre-poeth a Machen Isaf, yn 5,492 yn 2001.
Gerllaw Basaleg mae Gwernyclepa, cartref Ifor Hael, prif noddwr Dafydd ap Gwilym. Arferai eglwys Basaleg, Eglwys Sant Basil, fod yn gell yn perthyn i Abaty ynys Wydrin. Ceir mawsoliwm teulu Morgan, Tredegyr ynddi. Cyn iddynt symud i Dredegyr, roedd y teulu yn byw ym Mhlas Machen, ger Machen Isaf.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jayne Bryant (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Ruth Jones (Llafur).[1][2]
Cyfeiriadau