Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Casnewydd yw Trefesgob, neu Llangadwaldr (neu Llangadwaladr Trefesgob).
Saif i'r dwyrain o ddinas Casnewydd, yn ward etholiadol Llan-wern. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 2,161.
Saif rhan ddwyreiniol o hen waith dur Llan-wern yn y gymuned hon. Heblaw pentref Trefesgob ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentref mwy Underwood, a adeiladwyd yn y 1960au ar gyfer gweithwyr y gwaith dur.
Roedd yr ardal yn wreiddiol yn faenor eglwysig, a roddwyd i Esgob Llandaf yn y 6g yn ôl Llyfr Llandaf hyd at 1650. Mae olion plas yr esgob i'w weld fel mwnt, ac mae eglwys Sant Cadwaladr yn dyddio o'r 13g. Saif bryngaer o Oes yr Haearn ar ben Allt Chwilgrug.
Ymddangosodd 'Llan Gadwaladr' am y tro cyntaf mewn hen ddogfen yn dyddio'n ôl i 1136 a'r fersiwn Saesneg wedyn yn 1290: 'Bishton Manor of Llankadwder'. Trodd hwn yn 'Bishopiston' yn 1504 a daeth 'Tre Esgob' yn 1566.
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Trefesgob (Casnewydd) (pob oed) (2,137) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Trefesgob (Casnewydd)) (244) |
|
11.8% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Trefesgob (Casnewydd)) (1693) |
|
79.2% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Trefesgob (Casnewydd)) (305) |
|
34.4% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
67.1% |
Llyfryddiaeth
- Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Dictionary of the Place-Names of Wales (Gwasg Gomer, 2008)
Cyfeiriadau