Roedd Fflaps yn grŵp arloesol post-pync Cymraeg ar ddiwedd y 1980 a dechrau'r 1990s, o ardal Bangor, Gwynedd.
Roedd Fflaps un o'r grwpiau iaith Gymraeg cyntaf i chwarae'n gyson tu allan i Gymru gan deithio'n aml o amgylch gwleidydd Prydain a'r cyfandir.[1]
Yr aelodau gwreiddiol oedd Ann Matthews - gitâr a chanu, Alan Holmes - gitâr fâs a Jonny Evans - drymiwr.
Hanes
Rhwng 1987 a 1992 rhyddhawyd tair record hir ac un EP, a recordiwyd dau sesiwn (1988 a 1990) i raglen hwyr y nos John Peel ar BBC Radio 1.[2]
Roedd holl ganeuon y band yn Gymraeg ac roedd y grŵp yn un o'r rhai Cymraeg cyntaf i chwarae'n helaeth tu allan i Gymru, gan chwarae'n aml yn Lloegr, Yr Alban, Iwerddon, Yr Iseldiroedd, Ffrainc, Gwlad Belg a'r Almaen.
Rhyddhawyd EP y band ar wahoddiad Rhys Mwyn ar gyfer ei label Recordiau Anhrefn. Recordiwyd yn Stiwdio Foel, Llanfair Caereinion lle roedd nifer o fandiau pync fel The Fall, Crass a The Stranglers hefyd wedi recordio. Prif gân yr EP oedd Cariad a Rhamant fersiwn Cymraeg o Love and Romance gan The Slits.
Roedd y Fflaps hefyd yn un o'r grwpiau Cymraeg cyntaf i fod ar label o tu allan i Gymru - rhyddhawyd dau albymau cyntaf y band ar label Probe Plus, Lerpwl.
Yn 1988 bu'r band mewn damwain difrifol pan fethodd brêcs eu fan wrth iddynt adael traffordd yr M6 tra'n dychwelyd o Lundain. Roedd Alan Holmes yn yr ysbyty am beth amser ac nid oedd y band yn gallu perfformio am gyfnod.[3]
Recordyd eu albwm cyntaf Amhersain yn stiwdio Les Morrison, Bethesda mewn tri diwrnod.
Recordiwyd eu 2il albwm Malltod a'u 3ydd albwm Fflaps yn Stiwdio Ofn Gorwel Owen yn Rhosneigr. Ar Fflaps Canodd Geraint Jarman lleisiau cefndir ar y gân "Crebachu", gyda Dewi Evans o'r band Rheinallt H Rowlands yn ychwanegu allweddau ar "Cestyll a Llwch".
Roedd rhaid i ddrymiwr Jonny Evans adael y band pan dderbyniodd lle ar gwrs prifysgol yng Nghaerdydd. Cymerwyd ei le gan Maeyc Hewitt a chwaraeodd ar deithiau Fflaps yn Ffrainc a'r Almaen yn 1992 a 1993.
Aeth Matthews a Holmes ymlaen i ffurfio Ectogram gyda Maeyc Hewitt. Bu farw Jonny Evans yn 2001 a Maeyc Hewitt yn 2015[4][5]
Disgyddiaeth
Recordiau hir
- Amhersain (1988), Probe Plus
- Malltod (1990), Probe Plus
- Fflaps (1992), Central Slate
EP
Dolenni allanol
- Fideos y Fflaps ar YouTube
Cyfeiriadau