Les Morrison

Les Morrison
Ganwyd1956 Edit this on Wikidata
Bu farw29 Ebrill 2011 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcynhyrchydd recordiau Edit this on Wikidata

Cynhyrchydd cerddoriaeth, cerddor a chyfansoddwr oedd Les Morrison (195629 Ebrill 2011). Roedd yn hanu o Fethesda a daeth yn rhan bwysig o sîn gerddorol yr ardal yn y 1970 a'r 1980au.[1]

Gyrfa

Daeth i amlygrwydd yn chwarae gyda'r grŵp Maffia Mr Huws. Yn yr 1980au sefydlodd 'Stiwdio Les' ar Stryd Fawr, Bethesda. Bu'n recordio a chynhyrchu caneuon ar gyfer nifer fawr o artistiaid yn cynnwys Celt, Meic Stevens, Ffa Coffi Pawb, Hefin Huws, Jecsyn Ffeif, Mwg, Jina, Y Fflaps, Ust. Les a gynhyrchodd clasur Y Cyrff, Llawenydd Heb Ddiwedd. Fe weithiodd yn Stiwdio Sain yn Llandwrog hefyd lle cynhyrchodd gampwaith Siân James, Distaw, yn ogystal ag albwm Iwcs a Doyle.

Roedd yna gysylltiad agos rhwng Les a Gruff Rhys.[2] Gyda llwyddiant rhyngwladol y Super Furry Animals yn y 1990au, cafodd Les gyfnod yn teithio'r byd gyda nhw, yn gweithio fel technegydd a rheolwr llwyfan.[3] Ar ddiwrnod marwolaeth Les fe dalodd Gruff Rhys deyrnged arbennig iddo ar ei flog.

"...yr arwr addfwyn ac anturiaethwr yma, a gefnogodd gerddorion ei fro i’r carn. Ymysg ei ddoniau; gŵr, tad, taid, awdur caneuon, cynhyrchydd, cerddor, technegydd sain, cyfarwyddwr, plastrwr, elusennwr, cymwynaswr, rhwydweithiwr o fri, catalyst i newid, pen label recordio, rheolwr stiwdio, athro. Colled anferthol i’w deulu, ei gymuned ac i gymuned fyd-eang o gerddorion. Diolch Les. Bydd byth dy debyg ac fe gofiwn dy garedigrwydd a’th gyfeillgarwch am byth."

Bywyd personol

Roedd yn briod a Jenny ac roedd ganddynt bump o blant.[3]

Cyfeiriadau

  1. Les Morrison wedi marw , BBC Cymru, 30 Ebrill 2011. Cyrchwyd ar 29 Chwefror 2016.
  2. Gruff Rhys yn canu er cof am Les , Golwg360, 15 Awst 15 2011. Cyrchwyd ar 28 Chwefror 2016.
  3. 3.0 3.1  Les Morrison (1956–2011). Barn (Mehefin 2011). Adalwyd ar 29 Chwefror 2016.