Roedd Central Slate Records yn label recordiau a sefydlwyd gan Alan Holmes o Borthaethwy. Rhyddhawyd nifer o grwpiau, yn bennaf o ardal Bangor, gyda chaneuon yn Gymraeg a Saesneg.
Mae Alan Holmes wedi bod yn aelod o'r The Lungs, Fflaps, Third Spain, Ectogram, ac roedd yn sylfaenwr prosiect y band Rheinallt H Rowlands.
Mae Holmes bellach yn rhyddhau cynnyrch o'i label Turquoise Coal, eto'n canolbwyntio ar grwpiau ardal Bangor fel Heldinkey a grwpiau mae o'n rhan ohonynt fel Spectralate.
13 Mlynedd (DAT) - fersiynau o dair cân gan Joy Division. Un copi yn unig mewn bocs cyflwyno arbennig. Rhoddwyd i Nia Melville ar gyfer ei rhaglen Heno Bydd yr Adar yn Canu ar Radio Cymru.