Alan Holmes

Alan Holmes
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcerddor, cynhyrchydd recordiau Edit this on Wikidata
Alan Holmes yn ei stiwdio

Mae Alan Holmes yn gerddor, cynhyrchydd recordio, trefnydd cyngherddau ac arlunydd wedi'i leoli ym Mhorthaethwy, Ynys Môn.

Mae wedi bod yn aelod o grwpiau di-ri yn ardal Bangor a llawer iawn o brosiectau cerddorol a threfnydd o gyngherddau am dros 30 mlynedd.

Bywgraffiad

Ei grŵp cyntaf oedd band bît The Insects tra'n blentyn yn y 60au. Ym 1979 ffurfiodd The Zuggs a wedyn A Silly Tree. Ym Magor yn 1980 gweithiodd gyda'i ffrind Brian Williams sydd, o dan yr enw Lustmord, bellach yn gyfansoddwyr i ffilmiau a sylfaenydd y genre dark ambient.

Label Central Slate

Ar ddechrau'r 80au fu'n aelod o The Pinecones, Reinheitsgebot, Third Spain a The Lungs a sefydlodd y label Central Slate a rhyddhaodd dros ddwsin o recordiadau yn cynnwys y grwpiau Cymraeg Pop Negatif Wastad a Rheinallt H Rowlands.

Fflaps

Ar ddiwedd y 1980au ffurfiodd Fflaps - grŵp arloesol post-pync Cymraeg a fu'n un o'r grwpiau iaith Gymraeg cyntaf i chwarae'n gyson tu allan i Gymru gan deithio'n aml o amgylch gwleidydd Prydain a'r cyfandir. Recordiwyd dau sesiwn i raglen radio John Peel ar BBC Radio 1. Roedd Fflaps hefyd yn un o'r grwpiau Cymraeg cyntaf i gael eu hyrwyddo i gwmni recordiau tu allan i Gymru – 'Probe Plus' o Lerpwl.[1]

Rheinallt H Rowlands

Clawr caset Hen Wlad y Lladd-dai, 1990

Ym 1990 fe wahoddwyd y label Recordiau Ankst nifer o grwpiau Cymraeg i recordio fersiynnau newydd o ganeuon record hir 1979 Geraint Jarman Hen Wlad fy Nhadau ar gyfer albwm teyrnged aml-gyfrannog.[2] Yn anhapus nad oedd ei grŵp Y Fflaps wedi'i wahodd i gyfrannau, penderfynodd Alan Holmes ryddhau ei albwm aml-gyfrannog ffug ei hunain i ddychanu ymdrechion Ankst. Recordiwyd Hen Wlad y Lladd-dai ar offer elfennol yn ei sied ym Mhorthaethwy gyda Holmes yn chwarae llawer o'r traciau gan ddewis arddulliau cwbl wahanol i'r gwreiddiol – er enghraifft mae'r gân Steddfod yn y Ddinas, cân reggae ar albwm gwreiddiol Jarman, yn cael ei dro'n gân death metal.

Gofynodd Owain Wright a Dewi Evans recordio fersiwn o'r gân Ethiopia Newydd yn steil Scott Walker neu 'crooner' 1950iadd. Dyfeisiwyd enwau grwpiau dychmygol ar gyfer pob un o'r traciau, yn cynnwys: Y Dyfrgwn, Mudiad Moes a Symffonia Waunfawr. Ar gyfer trac Ethiopia Newydd fe roddwyd yr enw Rheinallt H Rowlands.

Llwyddodd Holmes gwblhau Hen Wlad y Lladd-dai a chael y casetiau ar werth cyn y fersiwn Ankst gan dderbyn llawn gymaint o sylw. Chwaraewyd y trac Ethiopia Newydd sawl tro ar Radio Cymru phan wahoddwyd Wright ac Evans i recordio sesiwn ar gyfer ei rhaglen radio Heno Bydd yr Adar yn Canu gan Nia Melville penderfynon fynd ati i berfformio a recordio'n rheolaidd ac bu Rheinallt H Rowlands yn fand go iawn go-lwyddiannus am tua ddeg mlynedd.[3]

Ectogram

Ectogram - Maeyc Hewitt, Ann Mattews, Alan Holmes

Wedi i Fflaps gorffen ffurfiodd Ectogram ym 1993, eto gydag Ann Matthews yn canu. Rhyddhawyd sawl albwm a theithiodd y band ar draws Prydain a Ewrop.[4]

Yn ystod 2005, chwaraeodd Ectogram nifer o gyngherddau gyda'r grŵp Almaeneg Faust, gan ymuno â nhw ar lwyfan o bryd i'w gilydd am berfformiadau ar y cyd. Yn 2012 roeddent yn fand cyfeilio i gyn aelod Can, Damo Suzuki.[5] Bu farw drymiwr Ectogram Maeyc Hewitt yn 2015 ac nid yw'r band wedi bod yn weithgar ers hynny..[6]

Gorky's Zygotic Mynci

Gyda Gorwel Owen bu'n cynhyrchydd rhai o recordiau cyntaf Gorky's Zygotic Mynci fel Bwyd Time, Merched yn gwneud gwallt ei gilydd a Game of Eyes a gan ddylunio'r cloriau hefyd.

Brosiectau eraill

Ym mhilith y grwpiau a recordio di-rif mae Holmes wedi bod yn rhan ohonynt roedd yn aelod o'r 'Sarff/The Serpents ym 1999 prosiect o dros 30 o gerddorion yn cynnwys aelodau o Super Furry Animals ac Echo and the Bunnymen. Rhyddhawyd y Sarff un CD You Have Just Been Poisoned By ar label Ochre a derbyniodd cryn sylw yn y wasg ar y pryd.[7]

Mae Alan Holmes hefyd wedi bod yn gerddor sesiwn ar sawl albwm Cymraeg yn cynnwys record gyntaf Melys,

Chwaraeodd ffidl gyda grŵp David Wrench a rhyddhawyd LP Blow Winds Blow ar Label AnkstMusik. Hefyd ar ddiwedd y 199au ffurfiodd y band Parking Non-Stop a oedd yn cynnwys recordiadau maes a cherddi gan ei wraig y bardd Zoë Skoulding. Chwaraeodd y grŵp nifer o gyngherddau ar draws Ewrop a rhyddhawyd dau CD ar label Almaeneg.

Yn 2004 canodd mewn côr cefndir i'r band Almaeneg Einstürzende Neubauten mewn cyngerdd yn Palast der Republik, Berlin[8] ac yn 2017 cyfansoddood drac sain ar gyfer y cyfrol Psalmy gan y bardd Pwyleg Julia Fiedorczuk[9]

Label Turquoise Coal

Ffurfiodd y label Turquoise Coal yn 2012 sydd yn rhyddhau recordiadau yn Saesneg a Chymraeg gan grwpiau o Ogledd Cymru yn cynnwys ei brosiectau personol fel Spectralate, Normal Shed Uses ac The Groceries.

Mae gwefan y label yn pwysleisio nad oes ganddo sŵn penodol ac mae’n agored i unrhyw 'genre’.[10]

Cafodd record gyntaf Turquoise Coal, Ha Ha gan Irma Vep ei lansio ar Sadwrn 24 Mawrth, 2012 yn siop Recordiau Cob Bangor ble roedd Holmes yn gweitho tu ôl y cownter - diwrnod olaf y siop a oedd yn cau wedi 33 mlynedd.[11]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Robb, John (2013) "Lost treasure: 80′s Welsh underground band the FFlaps", Louder Than War, 2 January 2013. Retrieved 3 November 2013
  2. http://ankst.co.uk/catalog/ Hen Wlad Fy Nhadau – Amrywiol (Caset Ankst 013)
  3. http://link2wales.co.uk/1990/archive-reviews/hen-wlad-y-lladd-dai-is-released-on-central-slate/#more-10755
  4. Raggett, Ned. [[[:Nodyn:Allmusic]] "Biography: Ectogram"] Check |url= value (help). Allmusic. Cyrchwyd 6 July 2010.
  5. Damo Suzuki, Ectogram, Y Niwl play CeLL, Blaenau Ffestiniog | link2wales.co.uk". link2wales.co.uk. Retrieved 26 December 2015
  6. http://link2wales.co.uk/2017/on-this-day-in-history/1st-october/
  7. https://www.theguardian.com/culture/1999/may/31/artsfeatures.echoandthebunnymen
  8. https://neubauten.org/en/palast-der-republik[dolen farw]
  9. http://fundacja-karpowicz.org/psalmy-julia-fiedorczuk/
  10. http://turquoisecoal.com/
  11. http://louderthanwar.com/turquoise-coal-is-a-new-welsh-underground-label/