Ymgyrchwr gwleidyddol o Gymru yw Emyr Llywelyn (ganwyd 26 Chwefror 1941 ),[ 1] a oedd yn weithgar yn ystod y 1960au a'r 1970au , sefydlwyd Mudiad Adfer ar sail ei athroniaeth ef, Owain Owain a'r Athro J. R. Jones . Mae'n cael ei adnabod hefyd gan ei lysenw Emyr Llew . Mae'n fab i'r nofelydd a'r bardd T. Llew Jones , ac yn frawd i'r chwaraewr gwyddbwyll rhyngwladol Iolo Ceredig Jones .
Fe'i ganed yn 1941 yn Sir Aberteifi. Cafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Coed-y-bryn , Ysgol Ramadeg Llandysul , a Phrifysgol Cymru, Aberystwyth .
Mae'n un o sefydlwyr a golygyddion y misolyn Cymraeg Y Faner Newydd .
Fe'i carcharwyd yn 1963 am wneud difrod i safle adeiladu argae Tryweryn ; dedfryd o 12 mis o garchar.[ 2] [ 3] [ 4] Cyhoeddodd ar unwaith na fyddai'n defnyddio trais eto. Tra'n Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith sicrhaodd fod y Gymdeithas yn mabwysiadu polisi di-drais.
Bu'n gweithio fel athro Cymraeg am sawl degawd, ym Mhort Talbot ac Aberaeron , ac mae'n byw yn Ffostrasol , Ceredigion erbyn hyn.
Emyr Llew yn annerch y brotest yn erbyn Arwisgiad Siarl o Loegr yng Nghilmeri, 1969. Llun: J. I. Daniel.
Llyfryddiaeth
Adfer a'r Fro Gymraeg (Lerpwl a Phontypridd: Cyhoediadau Modern Cymreig, 1976)
Llwybrau Llên (Y Lolfa, 2005)
Cyfres Ti'n Jocan: Hiwmor y Cardi (Y Lolfa, 2006)
Themâu ein Llên: Blas ar Themâu ein Llenorion (Y Lolfa:2007)
Cyfeiriadau