T. Llew Jones

T. Llew Jones
Cadeirio T. Llew Jones yn Eisteddfod Genedlaethol 1958.
Ganwyd11 Hydref 1915 Edit this on Wikidata
Pentrecwrt Edit this on Wikidata
Bu farw9 Ionawr 2009 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethllenor, bardd, awdur plant Edit this on Wikidata
PlantIolo Ceredig Jones, Emyr Llywelyn Edit this on Wikidata

Nofelydd a bardd oedd Thomas Llewelyn Jones (11 Hydref 19159 Ionawr 2009), a ysgrifennai fel T. Llew Jones. Bu'n ysgrifennu am dros hanner canrif, ac mae'n un o awduron llyfrau plant mwyaf poblogaidd a chynhyrchiol Cymru.

Bywgraffiad

Ganed ef ym Mhentre-cwrt, Sir Gaerfyrddin. Mynychodd Ysgol Gynradd Capel Graig ac Ysgol Ramadeg Llandysul. Bu'n athro ac yna'n brifathro am 35 mlynedd yn Ysgol Gynradd Tre-groes ac yna yn Ysgol Gynradd Coed-y-Bryn ger Llandysul. Daeth i amlygrwydd fel bardd pan enillodd Gadair yn Eisteddfod Glyn Ebwy (1958) ac eto y flwyddyn ganlynol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1959.

Er iddo barhau i farddoni, daeth yn fwyaf adnabyddus fel awdur nofelau plant. Mae ambell lyfr yn seiliedig ar gymeriadau hanesyddol fel Barti Ddu a Twm Siôn Cati. Cyhoeddodd dros 50 o lyfrau i gyd, y rhan fwyaf yn nofelau ond ambell un ffeithiol hefyd, megis Ofnadwy Nos, sef hanes llongddrylliad y Royal Charter. Addaswyd nifer o'i lyfrau ar gyfer teledu a chyfieithwyd nifer i'r Saesneg ac ambell un i ieithoedd eraill, megis Llydaweg.

Rhoddwyd gradd MA er anrhydedd iddo gan Brifysgol Cymru ym 1977, ac enillodd Wobr Mary Vaughan Jones am ei gyfraniad at lenyddiaeth blant. Ym mis Mawrth 2005, bron yn 90 oed, enillodd y gadair yn Eisteddfod Cymdeithas Ceredigion.

Roedd T. Llew Jones hefyd yn ymwneud â gwyddbwyll. Roedd yn un o'r rhai wnaeth arwain ymgyrch lwyddiannus i weld Undeb Gwyddbwyll Cymru yn torri'n rhydd o Ffederasiwn Gwyddbwyll Prydain (fel yr oedd bryd hynny) ac yn ymuno â FIDE fel aelod annibynnol ym 1970. Roedd hyn yn galluogi i Gymru gystadlu fel gwlad ar ei phen ei hun yn yr Olympiad Gwyddbwyll, a bu T. Llew yn rheolwr tîm Cymru yn Olympiad Nice, 1974.

Sefydlodd a rhedodd Gymdeithas Gwyddbwyll Dyfed, ei chynghrair, Clwb Gwyddbwyll Aberteifi, a Chyngres Agored Dyfed. Pan fu farw, yr oedd yn Is-lywydd Undeb Gwyddbwyll Cymru, ac yn Llywydd am Oes Cynghrair Gwyddbwyll Dyfed. Sefydlodd T. Llew hefyd gylchgrawn Y Ddraig, a bu'n olygydd ar y cylchgrawn wrth iddo dyfu o fod yn gylchlythyr Cymdeithas Gwyddbwyll Dyfed i fod yn gylchgrawn gwyddbwyll Cymru yn ystod y 1970au. Mae hefyd wedi ysgrifennu llyfr yn y Gymraeg ar wyddbwyll gyda'i fab, Iolo.

Roedd yn dad i'r gwleidydd Emyr Llewelyn, y chwaraewr gwyddbwyll rhyngwladol Iolo Ceredig Jones ac Eira Prosser.

Yn 2012, enwyd ysgol gynradd newydd, Ysgol T Llew Jones, ym Mrynhoffnant ger Llandysul, ar ei ôl. Roedd yr ysgol yn cymryd lle pedair ysgol Blaenporth, Glynarthen, Rhydlewis a Phontgarreg.[1]

Trysorfa T. Llew Jones (2012)
Trysorfa T. Llew Jones (2012) 
Trysor y Môr-ladron (1960)
Trysor y Môr-ladron (1960) 

Llyfryddiaeth

Llyfrau gan T. Llew Jones

Teitl Nodiadau Cyhoeddwyd
Merched y Môr a Chwedlau Eraill 1958, Gwasg Aberystwyth |
Trysor Plasywernen 1958, [dim cyhoeddwr]
Y Llyfr Difyr 1960, Gwasg Aberystwyth
Trysor y Môr-ladron wedi'i addasu i'r Saesneg gan Catrin Gerallt fel Captain Morgan and the Pirate Treasure (Pont Books, 2015) 1960, Llyfrau'r Dryw
Y Merlyn Du o'r ddrama radio Tanglemane gan Tudur Watkins 1960, Gwasg Aberystwyth
Anturiaethau Twm Siôn Cati:
Y Ffordd Beryglus
1963, CLC
Penillion y Plant darluniwyd gan Jac Jones 1965, Gwasg Gomer
Llyfrau Darllen Newydd: Llyfr 1 1965, Cymdeithas Lyfrau Ceredigion
Llyfrau Darllen Newydd: Llyfr 2 1965, Cymdeithas Lyfrau Ceredigion
Llyfrau Darllen Newydd: Llyfr 3 1965, Cymdeithas Lyfrau Ceredigion
Llyfrau Darllen Newydd: Llyfr 4 1965, Cymdeithas Lyfrau Ceredigion
Anturiaethau Twm Siôn Cati:
Ymysg Lladron
1965, Cymdeithas Lyfrau Ceredigion
Gwaed ar eu Dwylo 1966, Gwasg Gomer
Sŵn y Malu: Cyfrol o Farddoniaeth T. Llew Jones barddoniaeth 1967, Gwasg Gomer
Anturiaethau Twm Siôn Cati:
Dial o'r Diwedd
1968, Cymdeithas Lyfrau Ceredigion
Yr Ergyd Farwol 1969, Gwasg Gomer
Corn, Pistol a Chwip 1969, Gwasg Gomer
Gormod o Raff 1970, Gwasg Gomer
Y Corff ar y Traeth 1970, Gwasg Gomer
Ofnadwy Nos llyfr ffeithiol 1971, Gwasg Gomer
Barti Ddu o Gasnewy' Bach 1973, Christopher Davies
Cerddi Newydd i Blant (o Bob Oed) barddoniaeth 1973, Gwasg Gomer
Un Noson Dywyll 1973, Gwasg Gomer
Cri'r Dylluan 1974, Gwasg Gomer
Cyfrinach y Lludw 1975, Gwasg Gomer
Tân ar y Comin enillydd Gwobr Tir na n-Og;
wedi'i addasu i'r Saesneg gan Carol Byrne Jones fel Gipsy Fires (Pont Books, 1994)
1975, Gwasg Gomer
Arswyd y Byd! 1975, Gwasg Gomer
Rwy'i am fod … Yn Ddoctor 1976, Gwasg Gomer
Ysbryd Plas Nant Esgob 1976, Gwasg Gomer
Helicopter! Help!: a Storïau Eraill 1976, Christopher Davies
Pethe Plant 1976, Gwasg Gomer
Lawr ar Lan y Môr: Storïau am Arfordir Dyfed 1977, Gwasg Gomer
Dirgelwch yr Ogof 1977, Gwasg Gomer
Dysgu Difyr: Llyfr Amgylchedd i Ysgolion a Chartrefi 1977, Gwasg Gomer
Cerddi '79 1979, Gwasg Gomer
'Slawer Dydd atgofion 1979, Gwasg Gomer
Tales the Wind Told straeon i blant 1979, Gwasg Gomer
A Chwaraei di Wyddbwyll? gyda Iolo Ceredig Jones 1980, Gwasg Gomer
O Dregaron i Bungaroo 1981, Gwasg Gomer
Berw Gwyllt yn Abergwaun: Hanes Rhyfedd Glaniad y Ffrancod yn Abergwaun yn 1797 1986, Gwasg Carreg Gwalch
Canu'n Iach! barddoniaeth 1987, Gwasg Gomer
Lleuad yn Olau enillydd Gwobr Tir na n-Og;
wedi'i addasu i'r Saesneg gan Gillian Clarke fel One Moonlit Night (Pont Books, 1991)
1989, Gwasg Gomer
Cyfrinach Wncwl Daniel:
Hanes Rhyfedd Hen Feddyginiaeth Lysieuol
gyda Dafydd Wyn Jones 1992, Gwasg Gomer
Cancer Curers - Or Quacks?:
The Story of a Secret Herbal Remedy
gyda Dafydd Wyn Jones Cyfieithiad gan Dafydd Wyn Jones o Cyfrinach Wncwl Daniel 1993, Gwasg Gomer
Y Gelyn ar y Trên yn seiliedig ar The Trainspotters gan Graham Jones 1994, Gwasg Gomer
Hen Gof: Ysgrifau Llên Gwerin 1996, Gwasg Carreg Gwalch
Modrwy Aur y Bwda: a Storïau Eraill 1997, Gwasg Gomer
Storïau Cwm-Pen-Llo pedair stori a gyhoeddwyd yn wreiddiol fel rhan o Pethe Plant (1976) 2001, Gwasg Carreg Gwalch
Fy Mhobol I hunangofiant 2002, Gwasg Gomer

Llyfrau a olygwyd gan T. Llew Jones

Llyfrau a addaswyd i'r Gymraeg gan T. Llew Jones

Casgliadau gan olygyddion eraill

Cryno-ddisgiau

  • Lleuad yn Olau: Chwedlau Traddodiadol o Gymru, Tachwedd 2003, ail-gyhoeddwyd Chwefror 2005 (Tympan)

Llyfrau am T. Llew Jones

  • Siân Teifi, Cyfaredd y Cyfarwydd: Astudiaeth o Fywyd a Gwaith y Prifardd T. Llew Jones (Gwasg Cambria, 1982)
  • Cyfrol Deyrnged y Prifardd T. Llew Jones, gol. Gwynn ap Gwilym (Cyhoeddiadau Barddas, 1982)
  • Bro a Bywyd: T. Llew Jones, gol. Jon Meirion Jones (Cyhoeddiadau Barddas, 2010)
  • Idris Reynolds, Tua'r Gorllewin ... Cofiant T. Llew Jones (Cyhoeddiadau Barddas, 2011)

Cyfeiriadau

  1.  Enwi ysgol newydd ym Mrynhoffnant ar ôl T Llew Jones. BBC (7 Medi 2012). Adalwyd ar 7 Medi 2012.