Eisteddfod T, 2020 yw'r enw a fathwyd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, 2020 Yn sgil efaith Covid-19 a'r 'Gofid Mawr' (Covid-19 yng Nghymru), bu gwaharddiadau amrdeithio a chymysgu cymdeithasol a bu'n rhaid gohirio Eisteddfod yr Urdd oedd i'w chynnal yn Ninbych. Penderfynioddyr Urdd ar fyr-rybudd, gan bod y gwaith cartref eisoes wedi 'iegflwyno, oedd bwrw ymlaen gyda chymaint o arlwy a chystadlaethau'r Eisteddfod ag oedd bosib ,a'i ddarlledu. Daeth arlwy'r Eisteddfod yn fyw ar S4C o ddydd Llun i ddydd Gwener, 25 – 29 Mai, 2020 o stiwdio dros dro yng Nghanolfan yr Urdd ym Mae Caerdydd yng nghwmni Heledd Cynwal a Trystan Ellis-Morris.
Yn sgil y newid anferthol hwn, cafwyd cystadleuaethau newydd a gwahanol fel rhan o'r eisteddfod gyda chystadleuwyr yn danfon clipiau wedi'u ffilmio gartref i fewn i S4C.
Dywedodd Siân Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod: "Dwi'n hynod falch bod S4C wedi penderfynu darlledu holl gyffro Eisteddfod T ar y brif sgrin. Mae'r ymateb i Eisteddfod T wedi bod yn wych, gyda dros 4,000 wedi ymgeisio ar yr amrywiaeth o gystadlaethau."[1]