Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Caerdydd a'r Fro 2019 ym Mae Caerdydd rhwng 27 Mai a 1 Mehefin 2019.[1]
Cynhaliwyd digwyddiadau yn adeiladau Senedd Cymru gyda'r Senedd yn gartref i'r arddangosfa Celf, Dylunio a Thechnoleg, tra bu Adeilad y Pierhead yn Bafiliwn y Dysgwyr. Bu rhai o aelodau'r Senedd Ieuenctid Cymru yn weithgar ar eu stondin yn y Senedd.Roedd y trefniant yn debyg, ond llai o faint ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018.[2]
Tlws y Cyfansoddwr - Siriol Jenkins o Wiseman's Bridge yn Sir Benfro yn astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Rhydychen[5] Methodd Siriol ymddangos yn y seremoni yng Nghaerdydd gan bod arholiadau prifysgol ganddi.