Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir y Fflint 2016 rhwng 30 Mai a'r 4 Mehefin 2016. Cynhaliwyd yr ŵyl gyhoeddi gyda gorymdaith drwy dref y Fflint a arweiniwyd gan fand Samba Ysgol Uwchradd y Fflint.[1] Ymwelwyd a llongyfarchwyd yr Eisteddfod gan y Gweinidog yn Swyddfa Cymru yr Aelod Seneddol, Guto Bebb.[2]
Daeth dros 13,000 o ymwelwyr i faes Eisteddfod yr Urdd 2016 ar bedwerydd diwrnod yr ŵyl, rhyw 500 yn llai na’r ffigwr yn Eisteddfod Caerffili a'r Cylch, 2015.