Ysgol uwchradd gyfun cyfrwng Saesneg ym Mae Colwyn ydy Ysgol Uwchradd Eirias (Saesneg: Eirias High School). Mae'n gwasanaethu plant rhwng 11 ac 18 oed. Cyfeiria enw'r ysgol at yr Eirias ganoloesol a goffeir yn enw Parc Eirias, parc cyhoeddus ger yr ysgol.
Roedd 1521 o disgyblion yn yr ysgol yn ystod arolygiad Estyn 2009, gan gynnwys 279 yn y chweched ddosbarth. Disgrifiodd yr adroddiad yr ysgol fel "ysgol dda iawn gyda llawer o nodweddion rhagorol".[1]
Yn nhymor 2008-2009, cyflwynwyd pedwar tŷ ysgol newydd ar gyfer y disgyblion gyda theis o wahanol liwiau, sef coch, gwyrdd. glas a melyn. Enwau'r tai yw: Eryrod Glyn Dŵr/Glyndwr Eagles (melyn), Hebogiaid Llywelyn/Llywelyn Hawks (glas), Cudyllod Madog/Madog Kites (coch) a Gweilch Gwynedd/Gwynedd Falcons (gwyrdd).
Cyfeiradau
Dolenni allanol