Un o 31 talaith ffederalMecsico yw Durango. Mae ganddi boblogaeth o 1,754,754 (2015)[1]. Mae ganddi'r dwysedd poblogaeth ail isaf yn y wlad (ar ôl Baja California Sur). Dinas Durango yw prifddinas y dalaith. Mae'r rhan fywaf o'r dalaith yn fynyddig iawn gyda llawer o goedwigoedd trwchus. Gorwedd mynyddoedd y Sierra Madre Occidental yng ngorllewin a chanolbarth y dalaith. Ceir llawer o fwynau yn y mynyddoedd hynny, yn cynnwys arian, a dyma un o'r rhesymau pam fod y Sbaenwyr mor awyddus i feddianu'r ardal. Mae'r ardal gwelyau mwyn yn ymestyn i'r gogledd i dalaith Chihuahua ac i'r de i Zacatecas. Ceir basnau anial anferth yn ardal Laguna sy'n cael eu dyfrhau gan Afon Nazas. Mae prif gnydau'r ardal yn cynnwys cotwm, gwenith, ŷd, alfalfa, ffa, sorghum a llydiau eraill. Yn ogystal â ffermio, y prif ddiwydiannau yw coedwigaeth a ransio.
Ymsefydlodd y Sbaenwr Francisco de Ibarra yn Durango, a oedd yn rhan o dalaith anferth Nueva Vizcaya, yn 1563: sefydlodd ddinas Durango a'i henwi ar ôl ei dref enedigol Durango, yng Ngwlad y Basg. Ond gwrthwynebodd y bobloedd brodorol y trefedigaethwyr Sbaenaidd ac o hynny ymlaen maent wedi brywdro i gael elfen o ymreolaeth ar eu materion eu hunain. Yn 1823, yn fuan ar ôl diwedd Rhyfel Annibyniaeth Mecsico, daeth Durango yn dalaith ffederal.