Un o daleithiau Mecsico yw Campeche, a leolir yn ne-ddwyrain y wlad ar lan Gwlff Campeche, sy'n rhan o Gwlff Mecsico, am y ffin rhwng Mecsico a Gwatemala. Ei phrifddinas yw Campeche. Mae rhan helaeth y dalaith yn rhan o orynys Yucatan a cheir sawl safle archaeolegol yno.