Un o daleithiau Mecsico yw Quintana Roo, a leolir yn ne-orllewin y wlad ar benrhyn Yucatán am y ffin rhwng Mecsico a Belîs. Ei phrifddinas yw Chetumal ond y ddinas fwyaf yw Cancún.
Mae'r dalaith yn denu nifer o dwristiaid i fwynhau ei thraethau, yn enwedig i ardal Cancún. Mae'n adnabyddus hefyd am y stormydd trofannol sy'n ei tharo yn rheolaidd.