ARD, German Media Council, Informations-Verarbeitungs-Zentrum, Comisiwn UNESCO yr Almaen, Undeb Darlledu Ewropeaidd, ITU Telecommunication Standardization Sector
Mae Deutsche Welle, talfyriadDW, yn ddarlledwr Almaeneg, rhyngwladol ganolog ac yn cymryd rhan yn y sefydliad darlledu cyhoeddus ARD. Mae Deutsche Welle yn cynnwys gorsaf radio, sianel deledu, gwefan mewn ddeg ar hugain o ieithoedd a chwrs hyfforddi newyddiadurol. Nod Deutsche Welle yw hyrwyddo'r Almaen fel gwladwriaeth gyfansoddiadol ddemocrataidd sydd wedi'i gwreiddio yn Ewrop, wedi'i chreu'n rhydd, a hyrwyddo dealltwriaeth a chyfnewid rhwng diwylliannau a phobloedd[1] gan hefyd cynhyrchu sylw newyddion dibynadwy, darparu mynediad i'r iaith Almaeneg, a hyrwyddo dealltwriaeth rhwng pobl.[2]
Rhyngwladol
Sianel newyddion yw DW (TV) sy'n darlledu 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos yn Almaeneg, Saesneg, Ffrangeg, Sbaeneg, Arabeg, Dari a Pashto. Gellir clywed DW (Radio) mewn 31 o wahanol ieithoedd. Mae DW.de ar gael mewn 30 iaith ledled y byd. Mae'r DW-Akademie yn cynnig hyfforddiant ac addysg bellach proffesiynau cyfryngau i bobl o bob cwr o'r byd.
Mae Deutsche Welle wedi bod yn darlledu'n rheolaidd ers 1953. Hyd at 2003, roedd yr orsaf wedi'i lleoli yn ninas Cwlen, ac ar ôl hynny symudodd i Bonn (DW (Radio), DW Akademie, DW.de). Mae'r pencadlys teledu ym mhrifddinas yr Almaen, Berlin. Mae swyddfeydd ym Mrwsel, Mosgo, a Washington. Mae rhwydwaith o newyddiadurwyr parhaol a llawrydd yn gyfrifol am newyddiadura ar ran yr orsaf.
Er 2004 mae Deutsche Welle yn trefnu'r etholiad gweflog blynyddol 'Best of the Blogs'.[3]
Staff
O 2019 ymlaen, roedd tua 1,500 o weithwyr a 1,500 o weithwyr llawrydd o 60 gwlad yn gweithio i Deutsche Welle yn ei swyddfeydd yn Bonn a Berlin.[2]
Cronoleg
1924 - sefydlu Deutsche Welle GmbH, yn Berlin
1953 - ailddechreuodd Deutsche Welle weithredu ar ôl yr Ail Ryfel Byd
1990 - Ailuno'r Almaen - Gydag ailuno'r Almaen ym 1990, peidiodd gwasanaeth darlledu rhyngwladol Dwyrain yr Almaen, a alwyd yn Radio Berlin International (RBI), ddarlledu. Ymunodd rhai o staff yr RBI â Deutsche Welle ac etifeddodd DW rai cyfleusterau darlledu, gan gynnwys cyfleusterau darlledu yn Nauen, yn ogystal ag amleddau RBI.
1994 - ym mis Medi 1994, Deutsche Welle oedd y darlledwr cyhoeddus cyntaf yn yr Almaen gyda phresenoldeb ar y rhyngrwyd, a'r cyfeiriad i ddechrau oedd www-dw.gmd.de, a gynhaliwyd gan Ganolfan Ymchwil Technoleg Gwybodaeth GMD.