Siaredir Hindi fel mamiaith gan 180 miliwn o bobl yng ngogledd a chanolbarth India, tua 40% o boblogaeth India. Mae tua 25% o boblogaeth India yn medru Hindi fel ail iaith. Mae siaradwyr i'w cael hefyd yn Nepal, Ffiji, Mauritius, Lloegr, Trinidad a Tobago, Gaiana, Swrinam, a llawer o wledydd eraill. Y bumed iaith fwyaf yn y byd ydyw o ran nifer o siaradwyr.
Ar ddiwedd y 19g, bu mudiad i ddatblygu ffurf ysgrifenedig o Hindwstaneg oedd yn wahanol i Wrdw. Aethpwyd â hyn ymhellach wedi annibyniaeth; sefydlwyd comisiwn ym 1954 i safoni gramadeg Hindi. Yn gyffredinol, mae cyweiriau ffurfiol Hindi yn osgoi geiriau gyda tharddiad Persiaidd, gan ddefnyddio geiriau Sansgrit (gan gynnwys bathiadau) yn eu lle.
Mae'n perthyn yn agos i Wrdw, a ddatblygodd allan ohoni gyda dylanwad yr iaith Berseg yn y cyfnod modern. Ond ysgrifennir Hindi gan amlaf gydag ysgrifen Devanāgarī, ac Wrdw gyda'r wyddor Arabeg.
Llenyddiaeth
Mae llenyddiaeth gyfoethog yn Hindi, yn ymestyn yn ôl i'r 12g, ac yn adeiladu ar lenyddiaeth Sanscrit. Yn y llenyddiaeth draddodiadol, mae dylanwadau crefyddol cryf, a cheir lawer o straeon o hud a lledrith a thylwyth teg. Er hynny, mae llenyddiaeth fodern, realaidd, yn ogystal. Mae Munshi Premchand (1880-1936) yn un o'r nofelyddion enwocaf yn yr iaith.
Erbyn heddiw mae diwydiant ffilmiau egnïol yn Hindi, y cyfeirir ati yn anffurfiol fel "Bollywood", a'i ganolfan ym Mumbai.