Cyngor Dinas a Sir Abertawe (Saesneg: City and County of Swansea Council) yw corff llywodraethol un o ardaloedd awdurdod unedol Cymru sy'n cynnwys Abertawe, Gŵyr a'r ardal gyfagos ac sydd â statws sirol. Mae'r cyngor yn cynnwys 72 o gynghorwyr sy'n cynrychioli 36 etholaeth.
Ar hyn o bryd, rheolir y cyngor gan y Democratiaid Rhyddfrydol o dan arweinyddiaeth y Cynghorydd Christopher Holley.
Hanes bwrdeistrefol
Derbyniodd Abertawe ei siarter gyntaf rhyw bryd rhwng 1185-1184 gan William de Newburgh, 3ydd Iarll Warwick. Rhoddodd y siarter hwn statws bwrdeistref i Abertawe, a roddai hawliau penodol i drigolion y dref i ddatblygu'r ardal. Rhoddwyd ail siarter yn 1215 gan y Brenin John. Erbyn 1888, roedd gan y fwrdeistref statws bwrdeistref sirol, a oedd yn ei gwahanu o sir weinyddol Morgannwg.
Ym 1974, o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, unwyd Abertawe (a oedd yn fwrdeistref sirol hyd yn hyn) gydag Ardal Wledig Gŵyr, er mwyn creu ardal o Orllewin Morgannwg a alwyd Ardal a Dinas Abertawe. Ym 1996, yn sgil diwygio llywodraeth lleol, gwelwyd Abertawe'n uno gyda rhannau o ardal Dyffryn Lliw er mwyn creu awdurdod lleol o'r enw 'Dinas a Sir Abertawe'.
Maeryddiaeth
Mae maer Abertawe yn uwch-aelod o'r Cyngor etholedig. Teitl y mae ydy "Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Abertawe". Cartref swyddogol yr Arglwydd Faer ydy Mansion House yn Ffynone.
Blwyddyn fwrdeistrefol |
Maer
|
2010–2011 |
Richard Lewis
|
2009-2010 |
Alan Lloyd
|
2008-2009 |
Gareth Sullivan
|
2007-2008 |
Susan Waller
|
2006-2007 |
Chris Holley
|
2005-2006 |
Mair Gibbs
|
Cyfansoddiad gwleidyddol
Cynhelir etholiadau bob pedair blynedd. Cynhaliwyd yr etholiad diwethaf ar 1 Mai 2008.[1] Archifwyd 2009-08-02 yn y Peiriant Wayback
ffynhonnell: [2]
Rhwng 1996 a 2004, roedd y cyngor o dan reolaeth y Blaid Lafur. Ers 2004 ni fu rheolaeth lawn gan unrhyw blaid unigol a rheolir y cyngor gan glymblaid y Democratiaid Rhyddfrydol gyda chydweithrediad cynghorwyr annibynnol a'r Blaid Geidwadol. Gelwir hyn yn Weinyddiaeth Abertawe.
Fodd bynnag, newidiodd yr ystadegau hyn rhwng 2004-2008 pan symudodd y Cyngh. Keith Morgan o Blaid Cymru i'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn 2005 a'r Cyngh. Rene Kinzett o'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig i'r Blaid Geidwadol yn 2006.
Yn dilyn etholiadau 2008, cytunodd y Democratiaid Rhyddfrydol i ffurfio clymblaid gyda'r cynghorwyr annibynnol am y bedair blynedd nesaf.
Gweler hefyd
Cyfeiriadau