Cymdeithas Llywodraeth Leol CymruEnghraifft o'r canlynol | asiantaeth lywodraethol |
---|
Label brodorol | Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru |
---|
Dechrau/Sefydlu | 1996 |
---|
Aelod o'r canlynol | Council of European Municipalities and Regions |
---|
Enw brodorol | Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru |
---|
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
---|
Gwefan | https://www.wlga.gov.uk |
---|
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru / CLlLC (Saesneg: Welsh Local Government Association / WLGA) yw'r corff sy'n cynrychioli buddiannau awdurdodau lleol Cymru, sef y cyrff sy'n rhedeg siroedd, bwrdeistrefi sirol a dinasoedd Cymru, a hyrwyddo democratiaeth mewn llywodraeth leol yn y wlad. Mae 22 awdurdod lleol Cymru yn aelodau o'r Gymdeithas ac mae awdurdodau tân ac achub Cymru, pedwar awdurdod yr heddlu ac awdurdodau'r tri pharc cenedlaethol yn aelodau cyswllt. Dydy Cymunedau Cymru ddim yn cael ei gynrychioli gan CLlLC ond yn hytrach gan Un Llais Cymru.[1]
Strwythur a gwaith
Cafodd y Gymdeithas ei sefydlu yn 1996 pan gyflwynwyd awdurdodau unedol newydd yng Nghymru. Cyn hynny roedd llywodraeth leol Cymru yn cael ei chynnwys yn ddiwahân gyda Lloegr (gweler Cymru a Lloegr). Ond mae CLlLC o hyd yn rhan o 'Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Lloegr' (Saesneg: Local Government Association neu'r LGA) fel aelod cyswllt am fod rhai materion llywodraeth leol yn dal i gael eu penderfynu yn San Steffan gan Llywodraeth y DU fel rhan o'r drefn sy'n cynnwys Cymru gyda Lloegr o fewn y DU. Does gan Loegr ddim gymdeithas lywodraeth leol iddi ei hun o fewn yr LGA[2]
Yn ôl CLlLC, ei phrif ddibenion yw "hyrwyddo safonau ac enw da maes llywodraeth leol a helpu'r awdurdodau i ddatblygu polisïau a blaenoriaethau a fydd yn gwella gwasanaethau i'r cyhoedd a democratiaeth".[3]
Prif gorff gweinyddol y Gymdeithas yw Cyngor Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sydd gyda 79 o aelodau, gan gynnwys o leiaf 2 o bob awdurdod sy’n aelod. Mae’r cyngor yn cynnal cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn.[4]
Aelodau
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Gweler hefyd