Maulévrier, Le May-sur-Èvre, Mazières-en-Mauges, Nuaillé, Saint-Christophe-du-Bois, Saint-Léger-sous-Cholet, La Séguinière, La Tessoualle, Trémentines, Mauléon, Mortagne-sur-Sèvre
Mae Cholet yn gymuned yn DépartementMaine-et-Loire yn Rhanbarth Pays de la Loire, Ffrainc. Mae'n ffinio gyda Maulévrier, Le May-sur-Èvre, Mazières-en-Mauges, Nuaillé, Saint-Christophe-du-Bois, Saint-Léger-sous-Cholet, La Séguinière, La Tessoualle, Trémentines, Mauléon, Mortagne-sur-Sèvre ac mae ganddi boblogaeth o tua 54,074 (1 Ionawr 2022).
Poblogaeth
Lleoliad
Mae Cholet wedi ei leoli yn ne-orllewin eithafol département de Maine-et-Loire yn rhanbarth Mauges.[1]
Mae llawer o ddarganfyddiadau archeolegol yn profi presenoldeb poblogaeth cyn hanesyddol yn nhiriogaeth y gymuned, gan gynnwys nifer o lathryddion a 33 bwyell cerrig caboledig. Mae yna 13 maen hir yn dal i sefyll yn yr ardal, ac mae yna dystiolaeth bod o leiaf pump arall wedi diflannu[2] . Canfuwyd mynwent o gyfnod oes y cerrig yn Montruonde gyda thystiolaeth o gladdu ac amlosgi.
Menhir de la Pochetière
Menhir de la Pochetière
Menhir de la Garde
Petit menhir du Champ de la Garde
Bu ffordd Rufeinig yn cysylltu Naoned â Poitiers yn croesi'r gymuned ger yr orsaf drenau presennol. Canfuwyd cynefin Galaidd yn ardal Natteries ac adeilad pedwar ochrog yn perthyn i ddiwylliant CeltaiddLa Tene yn cwmpasu tua 128 m2.[3]
Adeiladau crefyddol
L'église du Sacré-Cœur (Eglwys y Galon Sanctaidd) adeiladwyd rhwng 1937 a 1942 gan y pensaer Maurice Cholet Laurentin, yn yr arddull Rhufeinig - Bysantaidd.
Eglwys Notre-Dame, priordy a sefydlwyd gan fynachod Saint-Michel-en-l'Herm. Yn ystod y Chwyldro Ffrenig fe'i defnyddiwyd fel carchar. Ailadeiladwyd ac addaswyd yr eglwys yn y 18g
Adeiladwyd Eglwys Saint-Pierre yn gyntaf yn y 7g, cafodd ei fandaleiddio a'i ddinistrio gan y Normaniaid yn y 15g. Ailadeiladwyd yr eglwys ym 1752
Agorwyd Eglwys Sant Bernadette ym 1963 gan yr Esgob Mazerat.
Cafodd Eglwys St Louis Marie Grignon de Montfort ei hadeiladu gan wirfoddolwyr rhwng 1957 a 1958
Cafodd Capel St Louis, hen gapel yr ysbyty, ei hadfer yn ddiweddar, a bellach yn cael ei ddefnyddio fel awditoriwm.
Mae cwfaint St. Francois Assisi a sefydlwyd yn 2002, yn defnyddio adeilad a sefydlwyd fel lleiandy Ffransisgaidd ym 1885
Agorwyd Chapelle du Bon-Pasteur (Capel y Bugail Da) ym 1865
Grande mosquée de Cholet, Mosg ar gyfer dilynwyr crefydd Islam.
↑Christophe Belser, Cholet il y a cent ans en cartes postales anciennes, Prahec, Patrimoines et médias, 2009, 139 p. (ISBN 978-2-916757-00-1, notice BnF no FRBNF40953217)
↑Agence pour la promotion du Choletais, « Dans un coin du musée … un plafond haut en couleurs », Synergences hebdo, l'hebdomadaire de la Communauté d'Agglomération du Choletais, no 272, 12 au 18 septembre 2012, p. 3