Un o ranbarthau Ffrainc sy'n gorwedd yng ngorllewin y wlad yw Pays de la Loire. Mae'n ffinio â rhanbarthau Bretagne (yn Llydaw), Basse-Normandie, Centre, a Poitou-Charentes. Llifa afon Loire trwy'r rhanbarth ar ran olaf ei thaith i'r môr, gan roi iddo ei enw. Mae'r ardal yn enwog am ei châteaux niferus.
Mae'r rhanbarth gweinyddol modern yn cynnwys Liger-Atlantel (Loire-Atlantique), sy'n rhan o'r Llydaw hanesyddol: bu Nantes (Naoned), canolfan weinyddol y département, yn brifddinas Llydaw yn y gorffennol.
Rhennir Pays de la Loire yn bum département: