Un o départements Ffrainc, yn rhanbarth Poitou-Charentes yng ngorllewin y wlad, yw Deux-Sèvres. Prifddinas y département yw dinas hanesyddol Niort. Mae'n ffinio â départements Charente, Charente-Maritime, Vendée, Maine-et-Loire, a Vienne. Llifa dwy afon Sèvre trwyddo, sef Afon Sèvre Niortaise yn y de ac Afon Sèvre Nantaise yn y gogledd, llednant o'r Afon Loire, gan roi iddo ei enw ("Y Ddwy Sèvres"). Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o dalaith hanesyddol Poitou.
Mae'r prif drefi yn cynnwys: