Département yn régionNord-Pas-de-Calais yng ngogledd Ffrainc yw Nord ("Gogledd"). Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 2,555,020; Nord yw'r département mwyaf poblog yn Ffrainc. Yn y dwyrain, mae'n ffinio ar Wlad Belg.
Ar un adeg roedd y diwydiant glo yn bwysig iawn yma, ac arweiniodd fachlud y diwydiant hwn at lefel uchel o ddiwethdra.
Adnebir rhan o'r déparement fel Fflandrys Ffrengig ac arferai berthyn i Fflandrys. Gwelir adlais o hyn yn y defnydd o "Llew Fflandrys", a gysylltir gyda'r tiriogaeth ar baner Fflandrys ac ar arfbais Département Nord.