- Gweler hefyd Haute-Vienne.
Un o départements Ffrainc, yn rhanbarth Aquitaine Newydd yng ngorllewin y wlad, yw Vienne. Prifddinas y département yw dinas hanesyddol Poitiers. Mae'n ffinio â départements Charente, Charente-Maritime, Deux-Sèvres, Maine-et-Loire, Indre-et-Loire, Indre a Haute-Vienne. Llifa Afon Vienne, llednaint o'r Afon Loire, trwy'r département gan roi iddo ei enw. Gelwir trigolion Vienne yn Viennais. Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o dalaith hanesyddol Poitou.
Mae'r prif drefi yn cynnwys: