Roedd The Independent Group for Change a adnabyddwyd hefyd fel Change UK, yn grŵp gwleidyddol canolbleidiol Prydeinig o Aelodau Seneddol. Fe'i ffurfiwyd yn Chwefror 2019 ac yr arweinydd oedd Anna Soubry. Fe'i ddiddymwyd yn fuan wedi Etholiad Cyffredinol 2019 am na lwyddodd y pedwar ymgeisydd ennill sedd.[2]
Yn Chwefror 2019 ymddiswyddodd saith aelod seneddol o'r Blaid Lafur, gan nodi eu bod yn anfodlon ag agwedd arweinyddiaeth Llafur i Brexit a'r ffordd oedd yn delio â honiadau o wrth-Semitiaeth yn y blaid.[3] Yn fuan wedi hynny, ymunodd cyn-AS Llafur arall a thri AS Ceidwadol oedd yn crybwyll ei gwrthwynebiad i sut oedd y Ceidwadwyr yn trin Brexit. Mae holl aelodau'r grŵp yn cefnogi ail refferendwm ar aelodaeth o'r UE.
Hanes
Sefydlwyd y grŵp gan Luciana Berger, Ann Coffey, Mike Gapes, Chris Leslie, Gavin Shuker, Angela Smith a Chuka Umunna a gyhoeddodd eu ymddiswyddiad o'r Blaid Lafur ar 18 Chwefror 2019 ar yr un pryd. Cyfeiriwyd at yr aelodau sefydlol hyn fel "Gang of Seven" gan rai yn y cyfryngau Prydeinig, mewn cymhariaet a'r Gang of Four a gychwynnodd raniad y Blaid Ddemocrataidd o Lafur yn 1981.[4][5][6][7] Roedd pedwar yn Aelodau Seneddol Llafur a Chydweithredol - mae'r rhain wedi ymadael â'r ddwy blaid.[8] Wrth gyhoeddi'r ymddiswyddiadau, fe wnaeth Berger gyhuddo Llafur o fod wedi mynd yn "sefydliadol wrth-Semitig", tra dywedodd Leslie fod Llafur wedi "cael ei herwgipio gan wleidyddiaeth peiriannol y chwith caled" a dywedodd Gapes ei fod yn "ddig fod arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn gyfrifol am hwyluso Brexit".[9]
Collodd Ryan, Shuker, Smith a Leslie bleidleisiau o ddiffyg hyder a ddygwyd gan eu pleidiau etholaethol.[10][11][12][13][14][15][16]. Gwnaeth Berger osgoi ddau gynnig o ddiffyg hyder pan cafodd eu tynnu'n ôl.[17]
Annogwyd pobl mewn pleidiau eraill i ymuno â nhw.[18] Dywedodd Umunna hefyd nad oedd dim bwriad o gyfuno gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol a fod y grŵp am adeiladu "dewis amgen newydd".[9]
Ar ôl lansio'r grŵp, ymddangosodd Angela Smith ar raglenPolitics Live y BBC, lle dywedodd "The recent history of the party I've just left suggests it's not just about being black or a funny tin..." mewn perthynas â sylw ar y gymuned BAME a thrafodaeth am hiliaeth yng nghymdeithas Prydain. Cafodd y gair olaf ei ddweud yn rhannol, ond awgrymwyd mai "tinge" oedd y gair. Ymddiheurodd Smith yn fuan wedyn am fod wedi siarad allan o drefn.[19][20][21]
Ymatebodd arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn : "Rwy'n siomedig bod yr Aelodau Seneddol hyn wedi teimlo na allant barhau i weithio gyda'i gilydd ar gyfer y polisïau Llafur a ysbrydolodd filiynau yn yr etholiad diwethaf." [22] Dywedodd y Canghellor Cysgodol Llafur, John McDonnell, fod ganddynt "gyfrifoldeb" i ymddiswyddo a chystadlu isetholiadau gan eu bod wedi cael eu hethol yn ASau Llafur a dylent geisio cefnogaeth yr etholwyr ar eu platfform newydd.[9] Pwysleisiodd eraill fod angen dwys ystyriaeth, gyda'r dirprwy arweinydd Tom Watson yn awgrymu dylai ei blaid newid er mwyn rhwystro toriadau pellach [23] Rhybuddiodd yr AS Llafur, Ian Austin y gallai fod mwy o aelodau seneddol Llafur adael y blaid. Dywedodd arweinydd Plaid Lafur yr Alban, Richard Leonard, fod y rhai yn y grŵp newydd yn cymryd y Ceidwadwyr "oddi ar y bachyn". Annogodd arweinydd yr Alban, Kezia Dugdale, arweinwyr y Blaid Lafur i ddangos "goddefgarwch a dealltwriaeth".[24]
Dywedodd Len McCluskey, ysgrifennydd cyffredinol undeb Unite, y dylai'r saith Aelod Seneddol dorri alw am isetholiadau: "Os ydynt yn ystyried eu hunain fel democratiaid, tybed a ydynt am sefyll i lawr a chreu isetholiadau" a "rhoi eu hetholwyr i cyfle i weld a ydynt am eu hethol." [19] Dywedodd arweinydd UNSAIN Dave Prentis fod y rhaniad yn "newyddion ofnadwy", gan ddweud nad yw "pleidiau rhanedig yn ennill etholiadau". Cymeradwywyd ei sylwadau gan arweinydd GMB, Tim Roache.[9]
Cyn y rhaniad, dywedodd Vince Cable, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, y byddai ei blaid "yn gweithio gyda nhw mewn rhyw fath" ond na fyddai ei blaid yn cael ei "ymgorffori" ganddynt. [19][25] Yn dilyn y rhaniad, dywedodd arweinydd yr Alban Democratiaid Rhyddfrydol Willie Rennie : "Mae hon yn condemniad damniol o'r hyn y mae Llafur wedi dod ac yn gwneud achos cadarnhaol dros newid." [24]
Dywedodd ASE Plaid Brexit a chyn-arweinydd UKIP, Nigel Farage, fod y rhaniad yn ddechrau aildrefniad yng ngwleidyddiaeth Prydain. [9]
Ehangu
Daeth Joan Ryan yr AS cyntaf i ymuno ar ôl ffurfio'r grŵp, gan gyhoeddi ei hymadawiad o'r Blaid Lafur ar 19 Chwefror. [26][27][28] Ar 20 Chwefror 2019 ymunodd tair AS Seneddol Ceidwadol â'r grŵp: Sarah Wollaston, Heidi Allen ac Anna Soubry . [29][30]
Rhannu
Yn Mehefin 2019, gadawodd 6 aelod o'r blaid i ddod yn aelodau annibynnol, sef Heidi Allen, Chuka Umunna, Sarah Wollaston, Angela Smith, Luciana Berger a Gavin Shuker. Roedd hyn yn dilyn canlyniadau siomedig yn etholiadau Ewrop 2019 a welodd gynnydd sylweddol i'r Democratiaid Rhyddfrydol.[31]
Strwythur ac amcanion
Yn wreiddiol nid oedd y grŵp yn blaid wleidyddol gofrestredig, ond yn hytrach grŵp o ASau annibynnol heb arweinydd.[32] Cefnogwyd y grŵp yn ei amcanion gan Gemini A Ltd, cwmni preifat a gychwynwyd gan Shuker.[33] Dywedodd Berger fod y saith wedi ariannu'r lansiad eu hunain.[34]
Neges allweddol y grŵp oedd: "Mae gwleidyddiaeth wedi torri. Gadewch i ni ei newid", ac maent yn bwriadu dilyn polisïau ar sail tystiolaeth, yn hytrach na rhai ar sail ideoleg, gyda'r grŵp yn goddef safbwyntiau gwahanol. Mae gwerthoedd penodol yn cynnwys economi marchnad gymdeithasol, rhyddid y wasg, amgylcheddaeth, datganoli[35] a'u gwrthwynebiad i Brexit.[32] Mae'r un ar ddeg AS yn cefnogi ail refferendwm ar aelodaeth o'r UE. [32]
Mae Shuker wedi datgan "[rydym] yn cefnodi busnes wedi'i reoleiddio'n dda ond yn disgwyl disgwyl iddynt ddarparu swyddi gweddus, diogel sy'n talu'n dda", tra bod Leslie wedi pwysleisio bod y grŵp o blaid NATO.[32] At hynny, mae'r grŵp wedi datgan eu bod yn cefnogi "economi marchnad gymdeithasol amrywiol, gymysg".[36] Mae'r grŵp hefyd yn gwrthwynebu gwrth-semitiaeth a hiliaeth, gyda Berger a Smith yn cyhuddo'r Blaid Lafur o fod yn "sefydliadol wrth-Semitig". [37]
Cofrestrwyd plaid newydd yn swyddogol ar 15 Ebrill 2019 er mwyn ymladd yn etholiadau yr Undeb Ewropeaidd.
↑"Statement of Independence". The Independent Group. 18 Chwefror 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Chwefror 2019. Cyrchwyd 18 Chwefror 2019. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)