Gwleidydd o Loegr a chyn-arweinydd y Blaid Lafur yw Jeremy Bernard Corbyn (ganwyd 26 Mai 1949).[2] Mae ef ar ochr chwith y blaid, ac mae wedi pleidleisio yn erbyn chwipiau'r blaid yn rheolaidd dros y blynyddoedd, gan gynnwys 238 gwaith yn ystod cyfnod seneddol 2005-2010, sef tua 25% o holl bleidleisiau yn y cyfnod hwnnw.
Mae ef yn Aelod Seneddol Llafur dros etholaeth Gogledd Islington ym Llundain ers 9 Mehefin 1983[3] ac mae wedi ei ail-ethol ym mhob Etholiad Cyffrediol ers hynny. Ar 12 Medi 2015 cafodd ei ethol yn arweinydd y Blaid Lafur sef yr wrthblaid.[4] Mae hefyd yn aelod o'r Grŵp Sosialaidd (y Socialist Campaign Group), yr Ymgyrch dros Balesteina (Palestinian Solidarity Campaign), Amnest Rhyngwladol, yr Ymgyrch dros Ddiarfogi Niwclear ac ef yw Cadeirydd cenedlaethol Stop the War Coalition. Yn dilyn etholiad cyffredinol 2019 lle na lwyddodd ennill mwyafrif i'r Blaid Lafur, penderfynodd sefyll lawr fel arweinydd. Cynhaliwyd gornest i ethol arweinydd newydd a daeth Keir Starmer yn arweinydd newydd ar 4 Ebrill 2020.[5]
Fe'i ganed yn Chippenham, Wiltshire, Lloegr, a bu'n fyfyriwr yn North London Polytechnic. Ar ôl gadael, cychwynnodd weithio i Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Cyhoeddus ac yna'r National Union of Tailors and Garment Workers. Ond yn 1974 y dechreuodd ei yrfa wleidyddol, pan gafodd ei ethol yn gynghorydd ar Gyngor Bwrdeistrefol Haringey, Llundain. Yn Etholiad cyffredinol 1983 fe'i etholwyd yn Aelod Seneddol dros Ogledd Islington ac mae wedi dal ei afael yn y sedd ers hynny.
Galwa'i hun yn 'Sosialydd Democrataidd' ac mae'n cytuno gydag ail-genedlaetholi gwasanaethau cyhoeddus a rheilffyrdd ac ailagor rhai pyllau glo. Mae'n credu hefyd y dylid bod yn fwy llawdrwm ar dwyllwyr treth yn hytrach na dilyn polisi 'toriadau llymder', fel roedd ei blaid ei hun yn ei argymell cyn ei benodi'n Arweinydd. Roedd llawer o'i syniadau'n perthyn yn nes at bolisïau'r SNP nag i'r Blaid Lafur. Lleisiodd ei farn droeon yn erbyn ffioedd myfyrwyr, gan droi'r cloc yn ôl ac ailgyflwyno'r system grantiau. Fel Tony Benn o'i flaen, bu hefyd yn dadlau dros y blynyddoedd dros ddiarfogi nwiclear a lliniaru meintiol er mwyn ariannu prosiectau amgylcheddol adnewyddol.
Enillodd Wobr Heddwch Rhyngwladol Gandhi yn 2013.[6]
Cyfeiriadau
Dolenni allanol