Carleton S. Coon |
---|
Ganwyd | 23 Mehefin 1904 Wakefield |
---|
Bu farw | 3 Mehefin 1981 Gloucester |
---|
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
---|
Galwedigaeth | anthropolegydd, academydd, ethnolegydd, llenor |
---|
Cyflogwr | - Prifysgol Pennsylvania
|
---|
Gwobr/au | Llengfilwr y Lleng Teilyndod, Viking Fund Medal, Gwobr Lenyddol Athenaeum |
---|
llofnod |
---|
|
Anthropolegydd ac academydd o'r Unol Daleithiau oedd Carleton Stevens Coon (23 Mehefin 1904 – 3 Mehefin 1981) a wnaeth gyfraniadau pwysig i feysydd anthropoleg ddiwylliannol, anthropoleg gorfforol, ac archaeoleg.
Bywyd cynnar ac addysg
Ganed Carleton Stevens Coon ar 23 Mehefin 1904 yn Wakefield, Massachusetts, Unol Daleithiau America, yn fab i John Lewis Coon a Bessie Carleton. Roedd ei deulu yn disgyn o Gernywiaid a ymfudodd i'r Unol Daleithiau yn y 1830au.
Graddiodd o Academi Phillips yn Andover, Massachusetts, ym 1921, a derbyniodd radd baglor yn y celfyddydau o Brifysgol Harvard ym 1925. Parhaodd â'i astudiaethau ôl-raddedig mewn anthropoleg yn Harvard, ac yno cyflawnodd ei radd meistr a'i ddoethuriaeth ym 1928.[1] Enillodd Gymrodoriaeth Daith Sheldon oddi ar y brifysgol, ac aeth ar sawl alldaith i Foroco rhwng 1926 a 1928.[2]
Gyrfa academaidd
Ymunodd Coon â staff Prifysgol Harvard ym 1927, yn ystod y flwyddyn olaf o'i astudiaethau ôl-raddedig, a byddai'n addysgu ac yn gwneud gwaith ymchwil yn y gyfadran hyd 1948, ac eithrio seibiant am ei wasanaeth milwrol (1942–45). Cyflawnai waith maes yn fynych, gan gyfuno archwiliadau archaeolegol ag ymchwil ethnograffig ar gyfer ei astudiaethau anthropolegol. Aeth ar ragor o alldeithiau academaidd ar gyfer y brifysgol ac Amgueddfa Archaeoleg ac Ethnoleg Peabody: i ogledd Albania ym 1929–30, i Rwsia ym 1933, i Ethiopia ac Iemen ym 1933–34, ac eto i Foroco ym 1939. Daliodd swydd is-guradur Amgueddfa Peabody o 1936 hyd at ddiwedd ei gyfnod yn Harvard.[2] Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, o 1942 i 1945, gwasanaethodd gyda'r Swyddfa Gwasanaethau Strategol (OSS) yng Ngogledd Affrica a De Ewrop, gan gynnwys Moroco, Tiwnisia a Chorsica, a bu'n gynorthwy-ydd arbennig i'r Genhadaeth Americanaidd yn Tangier ym 1942–43. Gwobrwywyd iddo Leng Teilyngdod ym 1945.[2]
Ym 1948, symudodd Coon i Brifysgol Pennsylvania i fod yn athro anthropoleg, a fe'i penodwyd hefyd yn guradur ethnoleg yn Amgueddfa'r Brifysgol yn Philadelphia. Bu yn y ddwy swydd honno hyd 1963. Aeth ar alldeithiau i Irac ac Iran (1948–49, 1951), Affganistan, Syria a'r Iorddonen (1954), deheubarth a chanolbarth Affrica (1955), a Tsile (1959). Treuliodd 1951–52 yn Sawdi Arabia yn cynghori'r Arab-American Oil Company, ac ym 1956–57 aeth ar daith o gwmpas y byd gydag Awyrlu'r Unol Daleithiau, gan ymweld ag India a Japan yn enwedig.[2]
Bywyd personol
Yn ogystal â'i famiaith, Saesneg, dysgodd Coon naw iaith yn rhugl.[3] O ran ei ffydd, aelod o'r Eglwys Gynulleidfaol ydoedd.[1] Priododd Carleton S. Coon â Mary Goodale ym 1926, a chawsant ddau fab, Carleton S. Coon Jr. (1927–2018) a Charles A. Coon (1931–2003), cyn iddynt gael ysgariad ym 1944.[2] Priododd am yr eildro â Lisa Dougherty Geddes ym 1945.[1]
Wedi iddo ymddeol o Brifysgol Pennsylvania ym 1963, symudodd Coon i Gloucester, Massachusetts, ac yno parhaodd â'i ymchwil a'i ysgrifennu. Aeth ar ragor o deithiau tramor, gan gynnwys Rwsia (1964), Sierra Leone, Ghana a Nigeria (1965), Camerŵn (1966), a Tsiad a Libia (1966–67). Ym 1972, yr un flwyddyn iddo deithio eto i India a pharthau eraill Asia, gwobrwywyd iddo Fedal Aur gan Glwb Teithwyr Harvard.[2] Ymgysylltodd ag Amgueddfa Archaeoleg ac Ethnoleg Peabody, Harvard, hyd at ddiwedd ei oes.[1] Bu farw Carleton S. Coon ar 3 Mehefin 1981 yn ei gartref yn Gloucester, Massachusetts, yn 76 oed. Cyhoeddwyd ei hunangofiant Adventures and Discoveries wedi ei farwolaeth, ym 1981.
Llyfryddiaeth
- Tribes of the Rif (Cambridge, Massachusetts: Peabody Museum of Harvard University, 1931).
- The Races of Europe (Efrog Newydd: Macmillan, 1939).
- A Reader in General Anthropology (Efrog Newydd: Henry Holt, 1948).
- The Story of Man: From the First Human to Primitive Culture and Beyond (Efrog Newydd: Alfred A. Knopf, 1954).
- The Seven Caves: Archaeological Explorations in the Middle East (Westport, Connecticut: Greenwood Press, 1956).
- Origin of Races (Efrog Newydd: Alfred A. Knopf, 1962).
- The Living Races of Man (Efrog Newydd: Alfred A. Knopf, 1965).
- Adventures and Discoveries: The Autobiography of Carleton S. Coon (Englewood Cliffs, New Jersey: Prentice-Hall, 1981).
Cyfeiriadau