Clwb pêl-droed o Groesoswallt ydy Clwb Pêl-droed Y Seintiau Newydd (Saesneg: The New Saints Football Club). Mae'r clwb yn chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru, sef Preimier Cymru, prif adran pêl-droed yng Nghymru ac maent wedi bod yn bencampwyr ar 13eg achlysur. Maent hefyd wedi codi tlws Cwpan Cymru ar chwech achlysur.
Maent yn chwarae eu gemau cartref ar Neuadd y Parc, maes sy'n dal uchafswm o 3,000 o dorf[1].
Ceir hefyd tîm menywod Y Seinitau Newydd. Bu i C.P.D. Merched y Seintiau Newydd gystadlu yn nhymor cyntaf Adran Premier, sef, Uwch Gynghrair Pêl-droed Merched Cymru ar ei newydd wedd yn nhymor 2021-22.
Fel nifer o glybiau Cymru ar y pryd, roedd Croesoswallt yn chwarae yng Nghwpan Cymru ac yng Nghwpan FA Lloegr, lle llwyddon nhw i gyrraedd y rownd gyntaf am y tro cyntaf ym 1927-28 cyn colli 5-2 yn erbyn Stockport County[5].
Cafodd Croesoswallt eu tymor gorau yng Nghwpan Cymru ym 1970-71 wrth iddynt gyrraedd y rownd gynderfynol cyn colli yn erbyn Wrecsam[6] a chawsant eu coroni'n bencampwyr Cynghrair Sir Gaer (Saesneg: Cheshire League) ym 1971-72[7]
Ym 1979-80 cafodd Croesoswallt eu derbyn yn aelodau o Uwch Gynghrair Gogledd Lloegr (Saesneg: Northern Premier League)[8] ond ar ddiwedd tymor 1987-88, ar ôl gorffen yn safleoedd y cwymp, fe aeth y clwb i'r wal[3][8].
Ail ffurfiwyd y clwb yn y 1990au ac, yn dilyn sefydlu Uwch Gynghrair Cymru, gwnaed penderfyniad i ddod yn aelodau o'r pyramid Cymreig gan ennill y Gynghrair Undebol ar y cynnig cyntaf ym 1995-96[9] a sicrhawyd dyrchafiad i Uwch Gynghrair Cymru ar ôl ennill y Gynghrair Undebol eto yn 1999-2000[10].
Ar ddiwedd tymor 2003-04, a chyda'r clwb yn dioddef yn arianol, fe ymddiswyddodd y clwb o Uwch Gynghrair Cymru cyn uno â chlwb Total Network Solutions[11].
Llansantffraid
Ffurfiwyd C.P.D Llansantffraid ym 1959 ym mhentref Llansantffraid-ym-Mechain, Powys gyda'r clwb yn dechrau chwarae yng Nghynghrair Sir Drefaldwyn ym 1959-60[12]. Ar ôl blynyddoedd o ennill tlysau ar lefel Sir Drefaldwyn[2] cafwyd dyrchafiad i Gynghrair Canolbarth Cymru ym 1990-91[13] ac ar ôl gorffen y tymor yn yr ail safle, cafwyd dyrchafiad yn syth i'r Gynghrair Undebol ar gyfer tymor 1991-92[14].
Yn eu hail dymor yn y Gynghrair Undebol, llwyddodd Llansantffraid i ddod yn bencampwyr a sicrhau dyrchafiad i Uwch Gynghrair Cymru[15].
Llwyddodd Llansantffraid i godi Cwpan Cynghrair Cymru ym 1994-95 gan drechu Ton Pentre yn y rownd derfynol[16] a'r flwyddyn canlynol cafwyd buddugoliaeth ar giciau o'r smotyn dros Y Barri yn rownd derfynol Cwpan Cymru[17].
Ym 1997-98 ailenwyd y clwb yn Total Network Solutions yn dilyn nawdd gan gwmni cyfrifiadurol o Groesoswallt[2].
Y Seintiau Newydd
Yn 2006, wedi i gwmni BT brynu Total Network Solutions[18], cyhoeddwyd y byddai'r clwb yn newid ei enw i Y Seintiau Newydd[19].
Llwyddodd y clwb i dorri record Y Barri fel y clwb mwyaf llwyddiannus yn hanes Uwch Gynghrair Cymru wrth sicrhau eu wythfed pencampwriaeth yn 2013-14 cyn ymestyn y record â nawfed pencampwriaeth yn 2014-15.