Ffurfwyd y clwb yn 1886 fel C.P.D. Y Fflint[1] ac maent yn chwarae eu gemau cartref ar Cae y Castell. Niall McGuiness yw rheolwr y clwb.
Hanes
Ffurfiwyd C.P.D. Y Fflint ym 1886[1] gyda'r clwb yn cyrraedd rownd derfynol y Cwpan Amatur ym 1890-91 cyn colli yn erbyn C.P.D. Fictoria Wrecsam[2]. Llwyddodd Y Fflint hefyd i ddod yn aelodau gwreiddiol Cynghrair Arfordir Gogledd Cymru ac ennill y bencampwriaeth cyntaf un ym 1893-94[3][4].
Ym 1905, unodd tri o glybiau'r dref; Flint Town, Flint Athletic a Flint United Alkali Company i greu C.P.D. Tref Y Fflint (Saesneg: Flint Town Footbal Club) a sicrhawyd eu llwyddiant cyntaf yn rownd derfynol Cwpan Amatur Cymdeithas Bêl-droed Arfordir Gogledd Cymru ym 1909-10 pan drechwyd Pwllheli o gôl i ddim.[5] a llwyddodd y clwb i gyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru ym 1924-25 cyn colli yn erbyn Wrecsam[6].
Wedi'r Ail Ryfel Byd unodd C.P.D Tref Y Fflint gyda chlwb newydd o'r enw C.P.D. Athletic Y Fflint, oedd wedi bod yn chwarae yng Nghynghrair Dyserth[1], o dan yr enw C.P.D. Tref Y Fflint Unedig. Llwyddodd y clwb newydd i ennill Cwpan Amatur Cymru ym 1947-48[2] cyn ymuno â Chynghrair Cymru (Y Gogledd) ym 1949-50[7].
Daeth oes aur y clwb yn ystod y 1950au wrth i gyn chwaraewr rhyngwladol Cymru, Billy Hughes arwain y tîm i fuddugoliaeth dros Gaer yn rownd derfynol Cwpan Cymru o flaen torf o 15,584 ar Y Cae Ras[8].
Erbyn diwedd y 1960au roedd y clwb wedi disgyn i chwarae mewn cynghreiriau lleol a bu rhaid disgwyl tan 1988-89 am unrhyw lwyddiant pan enillodd y clwb Gynghrair Undebol y Gogledd[9]. Cafwyd gwahoddiad i fod yn rhan o gynghrair newydd y Gynghrair Undebol ar gyfer tymor 1990-91[10] gan ddod yn bencampwyr cyntaf y gynghrair newydd[11].
Ar ddiwedd tymor 1990-91 cafwyd gêm rhwng pencampwyr y Gynghrair Undebol a phencampwyr Cynghrair Cymru (Y De) er mwyn penderfynu pencampwyr Cymru. Llwyddodd Y Fflint i drechu Y Fenni i ddod yn bencampwyr cyntaf Cymru.[12]. Yn 1992 cafodd y clwb wahoddiad i fod yn un o'r 20 clwb yn nhymor cyntaf Uwch Gynghrair Cymru gan orffen y tymor cyntaf yn yr 16eg safle[13] cyn colli eu lle ym mhrif adran Cymru ar ddiwedd tymor 1997-98[14].