Ffurfiwyd y clwb ym 1884[1] ac maent wedi codi Cwpan Cymru unwaith, ym 1900, yn ogystal â chynrychioli Cymru yng nghystadlaethau Ewropeaidd UEFA ar dair achlysur. Maent wedi bod yn aelodau o Uwch Gynghrair Cymru ers ei sefydlu ym 1992.
Mae'r clwb yn chwarae eu gemau cartref ar Goedlen y Parc, Aberystwyth, maes sy'n dal uchafswm o 5,000 o dorf gyda 1,002 o seddi. Mae gan y Clwb hefyd dîm Merched, tîm anabl a gwahanol dimau ieuenctid.
Hanes Cynnar
Ffurfiwyd y clwb ym mis Hydref1884 wedi i Arthur Hughes, mab i gyfreithiwr lleol, osod hysbyseb yn y papur newydd lleol yn gofyn am i chwaraewyr oedd eisiau ymuno â'r clwb newydd i gyfarfod yng Ngwesty'r Belle Vue, Aberystwyth ar brynhawn Sadwrn 4 Hydref.[2]. Roedd Arthur a'i frodyr Jack a Hugh yn bêl-droedwyr o fri, ac roedd Jack eisoes wedi cynrychioli Cymru ddwywaith ym 1877 a 1879 tra'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Caergrawnt.
Dechreuodd Aber chwarae yn y Welsh League ym 1896 ond dim ond am dymor, ond chwaraeodd y clwb yn rowndiau rhagbrofol Cwpan FA Lloegr a Chwpan Cymru cyn ymuno â'r Combination League ym 1899-1900[3] a cafwyd llwyddiant mwyaf y clwb yn ystod yr un tymor wrth iddynt godi Cwpan Cymru am yr unig dro yn eu hanes wedi buddugoliaeth 3-0 dros y C.P.D. Derwyddon Cefn[4] yn Y Drenewydd.
Ar ôl gadael y Combination League, ymunodd Aber â Chynghrair Sir Drefaldwyn a'r Cylch ym 1904[5] gan ennill sawl pencampwriaeth cyn ymuno â'r Gynghrair Genedlaethol Gymreig (Adran y Canolbarth) ym 1921.
Llwyddodd Aber i ennill Cwpan Amatur Cymru ym 1931 a 1933.
Yn ystod tymor 2021/22 daeth Aberystwyth y clwb cyntaf yn hanes i chwarae 1,000 o gemau yn Uwch Gynghrair Cymru[6].