Cynhaliwyd Cân i Gymru 2019 ar 1 Mawrth 2019 yng Nghanolfan y Cefyddydau, Aberystwyth.[1] Aeth 50 mlynedd heibio, ers lansio'r gystadleuaeth Cân i Gymru nôl yn 1969 pan enillwyd y gystadleuaeth gan Margaret Williams am Y Cwilt Cymreig. Cyflwynwyd y rhaglen gan Elin Fflur a Trystan Ellis Morris a darlledwyd y sioe yn fyw ar S4C.
Yr enillydd oedd Elidyr Glyn, Bangor am ei gân Fel Hyn 'da Ni Fod. Bydd Elidyr Glyn yn derbyn gwobr o £5,000 a bydd yn cynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd.[2] Cynhyrchwyd y rhaglen gan gwmni Avanti.
Dychan
Cafwyd adolygiad ddychannol o'r gystadleuaeth a'r rhaglen gan gymeriad DJ Bry ar Hansh (gwasanaeth ar-lein S4C i gynulleidfa iau a llai traddodiadol y Sianel.[3]
Arddangosfa
Cafwyd arddangosfa yn amlinellu hanes y gystadleuaeth yn ardal bwyty Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth i gyd-fynd gyda'r gystadleuaeth. Dangosau'r arddangosfa luniau a dyfyniadau gan gyn berfformwyr a threfnwyr.
Cyfeiriadau