Cynhaliwyd Cân i Gymru 2015 ym Mhafiliwn Mon, Gwlachmai, Ynys Mon. Cyflwynwyd y gystadleuaeth gan Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris.
Bu 8 o ganeuon yn cystadlu am wobr ariannol ac am y cyfle i gynrychioli Cymru yn yr Wyl ban-Geltaidd.
Beirniadwyd y gystadleuaeth a chwmni cynhyrchu Avanti yn hallt gan y cyfryngau ac ar gyfryngau cymdeithasol am broblemau sain, am safonau isel o gynhyrchu ac am y penderfyniad i gyflwyno panel oedd â'r gallu i waredu ar bedair cân rhag wynebu pleidlais y gynulleidfa. Yn sgil hyn, addawodd S4C i wella safon y rhaglen ar gyfer 2016.
Enillydd y gystadleuaeth oedd Elin Angharad gyda'r gân 'Y Lleuad a'r Ser', a gyfansoddwyd gan Arfon Wyn.
Artist
|
Cân
|
Cyfansoddw(y)r
|
Safle
|
Gwobr
|
Catrin Hopkins
|
Cariad Pur
|
Pheena
|
|
|
Elin Angharad
|
Y Lleuad a'r Sêr
|
Arfon Wyn
|
1af
|
£3,500
|
Sera Owen
|
Oes yn Ôl
|
Sera Owen
|
|
|
Neil Maliphant ac Aneirin Karadog
|
Pluen Wen
|
Neil Maliphant
|
|
|
Cai Morgan a Lewys Mann
|
Tri Mis yn Ôl
|
Cai Morgan a Lewys Mann
|
|
|
Team Panda
|
Tynna Fi i'r Glaw
|
Rhys Llwyd ac Aled Owen
|
|
|
Aled Evans
|
Y Llais
|
Aled Evans
|
|
|
Gareth Delve
|
Y Brwnt a'r Baw
|
Cy Jones a Darren Bolger
|
|
|
Cyfeiriadau