Ymladdwyd Brwydr Mortimer's Cross ar 2 Chwefror 1461 yn Wigmore (rhwng Henffordd a ger Llanllieni, Swydd Henffordd, yn ymyl Afon Lugg). Roedd yn un o gyfres o frwydrau rhwng pleidiau'r Lancastriaid a'r Iorciaid a elwir yn Rhyfeloedd y Rhosynnau.
Ar ôl marwolaeth Richard, 3ydd dug Efrog, ym Mrwydr Wakefield ddau fis ynghynt, arweinwyd yr Iorciaid gan ei fab deunaw mlwydd oed Edward, Iarll y Mers (y brenin Edward IV yn ddiweddarach). Roedd yn ceisio rhwystro'r lluoedd Lancastraidd a godwyd yng Nghymru gan Owain Tudur a'i fab Siasbar rhag ymuno â'r brif fyddin Lancastraidd. Roedd Edward wedi codi milwyr ar hyd y Mers ac roedd yn ogystal nifer o filwyr Cymreig o dde-ddwyrain Cymru ganddo, dan Syr Wiliam Herbert a'i gefnogwyr. Brwydr rhwng Cymry oedd hon i bob pwrpas, a hynny am feddiant coron Lloegr.
Roedd Siasbar wedi treulio misoedd lawer yn codi ei fyddin o Gymry, Gwyddelod a Llydawyr. Yn nechrau Ionawr arweiniodd y fyddin o Benfro tua'r gogledd-ddwyrain. Ymunodd byddin ei dad, Owain, ar y ffordd wrth iddynt deithio trwy ganolbarth Cymru. Ond heb lwyddo i gyfarfod â'r brif fyddin Lancastraidd yr oedd byddin Siasbar ac Owain yn sylweddol lai na byddin Edward.
Enillodd yr Iorciaid y dydd yn rhwydd, a ffoes Siasbar Tudur yn ôl i Benfro. Roedd Owain Tudur yn llai ffodus; cafodd ei ddal a'i ddienyddio yn Henffordd ar orchymyn Edward. Tybir fod cymaint â 4,000 wedi'u lladd yn y frwydr, a'r rhan fwyaf ohonynt yn Gymry. Agorodd y frwydr y ffordd i goroni Edward yn frenin Lloegr yn nes ymlaen yn y flwyddyn a dechrau cyfnod o erledigaeth ar y Lancastriaid a'u cefnogwyr.
Cefndir a theyrngarwch
Rhanwyd y Cymry yn Rhyfeloedd y Rhosynnau:
- Iorciaid – iarllaeth Marcha Morgannwg, eiddo eu prif gefnogwr Richard Neville, 16ed Iarll Warwick. Cefnogwyr William Herbert (a gweddill Herbertiaid Rhaglan), Guto'r Glyn, Rhisiart III, brenin Lloegr (1452–1485), Anne Neville (1456–1485), Harri Gruffudd o’r Cwrtnewydd, Fychaniaid Tretŵr, Ralph de Mortimer (m. 1246), Syr Rosier Cinast ap Gruffudd o'r Cnwcin a'r Plantagenetiaid.
- Lancastriaid – y Dywysogaeth ac arglwyddiaeth Siasbar Tudur ym Mhenfro; Siasbar oedd prif arweinydd plaid Lancastr yng Nghymru. Cefnogwyr: y Tuduriaid, Syr Rhys ap Tomas o Abermarlais (1449–1525), Rhosier ap Siôn Pilstwn o Emral, Siôn Hanmer ap Siôn Hanmer o Halchdyn a'r Llai, Gruffudd Fychan ap Gruffudd o Gorsygedol a Siôn Eutun ap Siâms Eutun o Barc Eutun, Gruffudd ap Nicolas, Margaret Beaufort, Catrin o Valois, John o Gaunt (1340–1399; mab y brenin Edward III) Thomas Stanley, iarll cyntaf Derby (1435–1504), Teulu'r Beaufort a Harri IV, V a VI.
Llyfryddiaeth
- H. T. Evans, Wales and the Wars of the Roses (1915)
- David Rees, The Son of Prophecy (argraffiad newydd, Rhuthun, 1997)
Cyfeiriadau