Uchelwr o Sais oedd Richard Neville, 16ed Iarll Warwick (Saesneg: Richard Neville, 16th Earl of Warwick) (22 Tachwedd1428 – 14 Ebrill1471), a adnabyddir hefyd fel Gwneuthurwr Brenhinoedd (Saesneg: Warwick the Kingmaker); roedd hefyd yn weinyddwr ac yn gadlywydd. Ganwyd ef yn fab i Richard Neville, 5ed Iarll Salisbury, Warwick oedd un o ieir cyfoethocaf a mwyaf pwerus ei oes. Roedd yn un o brif arweinwyr Rhyfel y Rhosynnau, yn wreiddiol ar ochr yr Iorciaid cyn newid ei gôt a throi at y Lancastriaid. Roedd yn allweddol yn y gwaith o gael gwared o ddau frenin a galwyd ef y 'Gwneuthurwr Brenhinoedd', ganrifoedd ar ôl iddo farw.
Drwy etifeddu arian a phriodi arian, erbyn 1450 roedd yng nghanol gwleidyddiaeth Lloegr. Cefnogodd Harri VI, brenin Lloegr ar y dechrau ond yn dilyn ffrae gydag Edmund Beaufort, dug cyntaf Somerset, ochrodd gyda Richard Plantagenet, 3ydd dug York, yn ei wrthwynebiad i'r brenin. Fe'i gwnaed yn Gwnstabl Calais, ardal a oedd ym meddiant Lloegr bryd hynny. Lladdwyd York ym Mrwydr Wakefield, a lladdwyd ei dad ei hun yn yr un brwydr. Cafodd Edward gefnogaeth Warwick ar y cychwyn, ond anghytunent parthed polisi tramor yn ogystal â dewis y brenin o wraig: dewisiodd un o'r werin gyffredin (Elizabeth Woodville). Wedi cynllwyn aflwyddiannus i goroni brawd Edward, George Plantagenet, dug cyntaf Clarence, cefnogodd Warwick Harri VI. Byr oedd y dathlu, fodd bynnag, ac ar 14 Ebrill 1471 gorchfygwyd Edward ym Mrwydr Barnet, a bu farw.
Carpenter, Christine (1997). The Wars of the Roses: Politics and the Constitution in England, c. 1437–1509. Cambridge: Cambridge University Press. ISBN0-521-31874-2.