Benjamin Zephaniah

Benjamin Zephaniah
Ganwyd15 Ebrill 1958 Edit this on Wikidata
Handsworth Edit this on Wikidata
Bu farw7 Rhagfyr 2023 Edit this on Wikidata
o tiwmor yr ymennydd Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, bardd, llenor, canwr, dub poet, hunangofiannydd, cerddor Edit this on Wikidata
MudiadÔl-foderniaeth Edit this on Wikidata
PerthnasauMikey Powell Edit this on Wikidata
Gwobr/auhonorary doctor of the University of Birmingham, Doethor Anrhydeddus Brifysgol Exeter, Honorary Fellow of the British Academy Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://benjaminzephaniah.com/ Edit this on Wikidata

Bardd Seisnig oedd Benjamin Obadiah Iqbal Zephaniah (15 Ebrill 19586 Rhagfyr 2023)[1][2]. Roedd yn lenor Rastafarian a bardd dub.

Bu farw yn Rhagfyr 2023 wedi derbyn diagnosis o diwmor ar yr ymennydd wyth wythnos ynghynt.

Bywyd cynnar

Ganed a magwyd Zephaniah yn Handsworth ardal o fewn dinas Birmingham,[3] man y cyfeiriodd ato fel "Jamaican capital of Europe", yn fab i bostmon o Barbados a nyrs.[4][5] Fel person â dyslecsia, fe fynychodd ysgol arbennig, ond gadawodd yr ysgol yn 13 oed heb fod yn gallu darllen nac ysgrifennu.

Gwrthod OBE

Yn Nhachwedd 2003, fe esboniodd Zephaniah yn The Guardian ei fod wedi gwrthod OBE gan y Frenhines gan ei fod yn ei atgoffa o "how my foremothers were raped and my forefathers brutalised".[6]

Erthygl am ddysgu Cymraeg i blant yn Lloegr

Yn sgil ei ymweliad i Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau 2015 pan gyflwynodd rhaglen am yr ŵyl i BBC Four[7], cyhoeddwyd erthygl gan Zephaniah ar wefan BBC am y syniad o ddysgu Cymraeg i blant mewn ysgolion yn Lloegr[8] yn ogystal ag erthyglau am ei sylwadau.[9][10]

Cyhoeddiadau

Cyhoeddodd Zephaniah ei lyfr cyntaf o gerddi, Pen Rhythm, yn 1980. Cafodd cystal dderbyniad fel yr argraffwyd tair cyfrol. Fe dderbyniodd ei albwm Rasta, a oedd yn cynnwys recordiad cyntaf band The Wailers ers marwolaeth Bob Marley yn ogystal â bod yn deyrnged i Nelson Mandela, sylw ar draws y byd a bu ar frig siartiau albymau Iwgoslafia.[11]

Roedd Zephaniah yn poet in residence yn siambrau Michael Mansfield QC, ac eisteddodd i mewn ar gyfer yr ymchwiliad i Sul y Gwaed ac achosion eraill, ac fe arweiniodd y profiadau hyn at ei gasgliad o gerddi Too Black, Too Strong.

Llyfrau

Barddoniaeth

  • Pen Rhythm (1980)
  • The Dread Affair: Collected Poems (Arena, 1985)
  • City Psalms (Bloodaxe Books, 1992)
  • Inna Liverpool (AK Press, 1992)
  • Talking Turkeys (Puffin, 1995)
  • Propa Propaganda (Bloodaxe Books, 1996)
  • Funky Chickens (Puffin, 1997)
  • School's Out: Poems Not for School (AK Press, 1997)
  • Funky Turkeys (Llafarlyfr) (AB, 1999)
  • Wicked World! (Puffin, 2000)
  • Too Black, Too Strong (Bloodaxe Books, 2001)
  • The Little Book of Vegan Poems (AK Press, 2001)
  • Reggae Head (Llafarlyfr) (57 Productions)
  • Rong Radio Station

Nofelau

  • Face (Bloomsbury, 1999) (cyhoeddwyd mewn rhifynau i blant ac i oedolion)
  • Refugee Boy (Bloomsbury, 2001)
  • Gangsta Rap (Bloomsbury, 2004)
  • Teacher's Dead (Bloomsbury, 2007)

Llyfrau plant

  • We are Britain (Frances Lincoln, 2002)
  • Primary Rhyming Dictionary (Chambers Harrap, 2004)
  • J is for Jamaica (Frances Lincoln, 2006)

Dramâu

  • Listen to Your Parents (wedi ei gynnwys yn Theatre Centre: Plays for Young People - Celebrating 50 Years of Theatre Centre (2003) Aurora Metro, cyhoeddwyd hefyd gan Longman, 2007)
  • Face: The Play

Discograffi

Albymau

  • Rasta (1982) Upright (ail gyhoeddwyd (1989) Workers Playtime (UK Indie #22)[12]
  • Us An Dem (1990) Island
  • Back to Roots (1995) Acid Jazz
  • Belly of De Beast (1996) Ariwa
  • Naked (2005) One Little Indian
  • Naked & Mixed-Up (2006) One Little Indian (Benjamin Zephaniah Vs. Rodney-P)

Senglau, EPs

  • Dub Ranting EP (1982) Radical Wallpaper
  • "Big Boys Don't Make Girls Cry" 12-inch single (1984) Upright
  • "Crisis" 12-inch single (1992) Workers Playtime
  • "Empire" (1995) Bomb the Bass with Benjamin Zephaniah & Sinead O'Connor

Cyfeiriadau

  1. "Y bardd a'r cerddor Benjamin Zephaniah wedi marw yn 65 oed". newyddion.s4c.cymru. 2023-12-07. Cyrchwyd 2023-12-07.
  2. Mason, Peter (7 Rhagfyr 2023). "Benjamin Zephaniah obituary". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2023.
  3. "Benjamin Zephaniah", British Council, retrieved April 13, 2008.
  4. (Saesneg) "Biography" Archifwyd 2008-04-12 yn y Peiriant Wayback, BenjaminZephaniah.com
  5. (Saesneg) Dread poet's society", The Guardian, 4 November, 2001
  6. (Saesneg) "'Me? I thought, OBE me? Up yours, I thought'", The Guardian, Tachwedd 27, 2003.
  7. http://www.bbc.co.uk/programmes/b066vgrq
  8. http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/33841602
  9. http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/33840395
  10. http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-33840692
  11. (Saesneg) The Brighton Magazine Archifwyd 2008-05-19 yn y Peiriant Wayback
  12. Lazell, Barry (1997) Indie Hits 1980-1989, Cherry Red Books, ISBN 0-9517206-9-4

Dolenni allanol