Arddull arbennig mewn pensaernïaeth, cerddoriaeth a'r celfyddydau a fu'n boblogaidd rhwng diwedd yr 17g a chanol y 18g, yn enwedig yng ngwledydd CatholigEwrop, yw Baróc (benthyciad o'r gair SaesnegBaroque sydd yn ei dro yn fenthyciad o'r gair Ffrangegbaroque o'r gair Sbaenegbarrueco). Mae'r term yn cael ei ddefnyddio weithiau i ddisgrifio unrhyw arddull anghyffredin yn y celfyddydau. Gellid ystyried yr arddull Baróc fel adwaith yn erbyn Clasuriaeth y Dadeni. Dechreuodd yn yr Eidal.
Fe'i nodweddir mewn pensaernïaeth ac arlunio gan ddefnydd llinellau ystwyth neu doredig, arddurnwaith blodeuog a goreuraidd (a arweiniodd at yr arddull Rococo) ac effeithiau gofodol dramatig. Ymhlith yr artistiaid baroc pwysicaf gellid crybwyll Bernini, Borromini, Caravaggio a Rubens.
Mewn llenyddiaeth mae Baróc yn derm llai pendant a diffiniedig. Gellid ystyried nofelaupicaresg y cyfnod yn enghraifft. Roedd yn ddylanwad pwysig ar lenyddiaeth y cyfnod yn ogystal, yn enwedig yn Ffrainc, yr Eidal, de'r Almaen a Sbaen.