Cyfansoddwr a feiolinydd o'r Eidal oedd Giovanni Battista Pergolesi (4 Ionawr 1710 – 16 Mawrth 1736).
Mwynhaodd Pergolesi dim ond llwyddiant cyfyngedig yn ystod ei fywyd byr, ond yn fuan ar ôl ei farw enillodd ei waith enwogrwydd mawr ledled Ewrop.
Yn arbennig, fe berfformiwyd ei opéra buffa La serva padrona lawer gwaith, a'i Stabat mater oedd y darn o gerddoriaeth a argraffwyd yn fwyaf aml yn y 18g.
Daeth ei waith mor boblogaidd bod llawer o ddarnau gan gyfansoddwyr eraill wedi'u priodoli'n anghywir iddo.
Gweithiau cerddorol
Operâu
- La conversione e morte di San Guglielmo (1731)
- Salustia (1732)
- Lo frate 'nnammorato (1732)
- Il prigionier superbo (1733)
- La serva padrona (1733)
- La contadina astuta (1734)
- Adriano in Siria (1734)
- L'Olimpiade (1734)
- Il Flaminio (1735)
Cerddoriaeth eglwysig
- Stabat Mater (1736)
- 2 offeren, 2 Vespers, 2 Salve regina, 2 motét