Cyfres o stribedi comig ydy Anturiaethau Asterix (Ffrangeg: Astérix neu Astérix le Gaulois), a grewyd gan René Goscinny ac Albert Uderzo. Ymddangosodd y gyfres yn y cylchgrawn Ffrengig Pilote am y tro cyntaf ar 29 Hydref 1959. Mae 39 llyfr comig wedi cael eu cyhoeddi yn y gyfres hyd 2021.
Mae'r cyfres yn dilyn hanesion pentref yng Ngâl hynafol, tra eu bod yn gwerthsefyll meddiannu'r wlad gan y Rhufeiniaid. Maent yn gwneud hyn drwy ddefnyddio cymysgedd hudol, sy'n cael ei fragu gan eu derwydd, sy'n rhoi cryfder goruwchddynol i'r un sy'n ei yfed. Asterix yw'r prif gymeriad, ynghyd a'i ffrind Obelix; maent yn cael amryw o anturiaethau sy'n eu harwain i deithio o amgylch nifer o wledydd y byd, ond mae sawl llyfr wedi eu seilio o amgylch eu pentref.
Asterix yw un o'r cyfresi comig Ffrengig-Belgaidd mwyaf poblogaidd yn y byd. Mae wedi cael ei gyfieithu i dros 100 o ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg, ac mae'n fwyaf poblogaidd yng ngwledydd Ewrop. Mae Asterix yn llai adnabyddus yn yr Unol Daleithiau a Japan.
O ganlyniad i lwyddiant y gyfres mae nifer o'r llyfrau wedi'u haddasu'n ffilmiau: wyth wedi eu hanimeiddio, a thri gydag actorion byw. Mae hefyd nifer o gemau yn seiliedig ar y cymeriadau, ac mae'r parc thema Ffrengig, Parc Astérix, wedi ei seilio ar y gyfres.
Hanes
Cyn creu cyfres Asterix, roedd Goscinny ac Uderzo eisoes wedi cael llwyddiant gyda'u cyfres Oumpah-pah, a gafodd ei gyhoeddi yng nghylchgrawn Tintin.
Cyhoeddwyd Astérix yn wreiddiol ar ffurf cyfres Pilote, cyhoeddwyd am y tro cyntaf ar 29 Hydref 1959.[1] Yn 1961, cysodwyd fel llyfr am y tro cyntaf: Astérix le Gaulois. O hynny ymlaen, cyhoeddwyd llyfr yn flynyddol fel rheol.[2]
Pan fu farw Goscinny, cariodd Uderzo y gyfres ymlaen ar ei ben ei hun, ond yn llai rheolaidd. Nid yw straeon Uderzo wedi cael beirniadaeth cystal a'r rhai a gyd-ysgrifennodd gyda Goscinny. Ymddeolodd Uderzo yn 2009, a bu farw yn 2020. Yn 2013, cymerodd tim newydd yr awenau, sef Jean-Yves Ferri (yn ysgrifennu'r testun) a Didier Conrad (yn darlunio'r arlunwaith).
Alun Ceri Jones a gyfieithodd yr 8 llyfr Cymraeg gyntaf a cyhoeddwyd hwy gan Wasg y Dref Wen.[3] Ef aeth ymlaen i sefydlu Dalen, gan ail-gyhoeddi 4 ohonynt a chyhoeddi 2 lyfr pellach yn 2012. Ond, oherwydd rhesymau hawlfraint, bu'n rhaid ail-gyfieithu ac ail-enwi'r cymeriadau yn y broses.[4]