Cyfrol ar ffurf cartwnau ar gyfer plant a'r arddegau gan René Goscinny ac Albert Uderzo yw Asterix yn y Gemau Olympaidd (Ffrangeg: Astérix aux Jeux olympiques). Fe'i addaswyd i'r Gymraeg gan Alun Ceri Jones.
Dalen a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 2012. Yn 2013 roedd y gyfrol mewn print.[1]
Mae Asterix a'i ffrindiau yn penderfynu newid ochr a throi'n Rufeiniaid er mwyn cael cystadlu yn y Gemau Olympaidd.