Cynhaliwyd Gemau Olympaidd yr Henfyd am y tro cyntaf yn Olympia, yn nhiriogaeth Elis, Gwlad Groeg yn 776 CC, ac fe'u dathlwyd hyd 393 OC. Cyfeirid atynt yn wreiddol fel y Gemau Olympaidd (Groeg: Ολυμπιακοί Αγώνες; Olympiakoi Agones), ar ôl enw'r ddinas, er mwyn gwahaniaethu rhyngddynt â gemau eraill Groeg. Roeddent yn gyfres o gystadlaethau athletaidd gydag athletwyr o amryw o ddinas-wladwriaethau Groeg yr Henfyd yn cymryd rhan.[1]
Roedd gemau Olympiaidd yr henfyd braidd yn wahanol i'r gemau modern. Roedd llai o ddigwyddiadau ac ond dynion rhydd a siaradai Roeg allai gymryd rhan.
Ond o'r cychwyn cyntaf bu'r Gemau Olympaidd yn fwy nag achlysur ar gyfer athletau a mabolgampau eraill fel ymgodymu. Roeddent yn gyfle i hyrwyddo diwylliant, clywed cerddi newydd, gwrando ar gerddoriaeth a thrafod y byd a'i bethau.
Cyfeiriadau