Gwleidydd o Gymraes oedd Ann Clwyd (21 Mawrth 1937 – 21 Gorffennaf 2023).[2] Bu'n cynrychioli etholaeth Cwm Cynon dros y Blaid Lafur rhwng 1984 a 2019.[3]
Bywyd cynnar
Ganwyd Clwyd yn Ninbych yn ferch i Gwilym ac Elizabeth Lewis. Bu'n byw ym Mhentre Helygain, Sir y Fflint, a mynychodd Ysgol Ramadeg Treffynnon, ysgol annibynnol Queen's School yng Nghaer a Choleg Prifysgol Cymru, Bangor.[1] Roedd yn athrawes fyfyriwr yn Ysgol yr Hôb, Sir Fflint.[4] Bu'n gweithio fel newyddiadurwraig ar gyfer y BBC fel rheolwr stiwdio cyn dod yn ohebydd ar gyfer papurau newydd y Guardian a'r Observer rhwng 1964 ac 1979. Mae'n aelod o'r NUJ a'r TGWU ac yn ffrind a chefnogwr i'r gwleidyddion Americanaidd Paul Wolfowitz a Donald Rumsfeld.
Bu'n aelod o Gomisiwn Brenhinol y GIG rhwng 1976 ac 1979.
Bywyd personol
Roedd yn briod i Owen Roberts o 1963 hyd ei farwolaeth yn 2012. Bu farw Ann Clwyd yn 86 oed.[5]
Cyfeiriadau
Dolenni allanol