Roedd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gysylltiadau â'r Gymanwlad yn weinidog yng Nghabinet Prydain a oedd yn gyfrifol am ddelio â chysylltiadau'r Deyrnas Unedig ag aelodau o Gymanwlad y Cenhedloedd (ei hen drefedigaethau). Adran y gweinidog oedd Swyddfa Cysylltiadau'r Gymanwlad.
Crëwyd y swydd ym 1947 allan o hen swydd yr Ysgrifennydd Gwladol Materion Dominiwn. Ym 1966, cyfunwyd y swydd ag un Ysgrifennydd Gwladol y Trefedigaethau i ffurfio Ysgrifennydd Gwladol Materion y Gymanwlad, a gyfunwyd yn ei dro â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor ym 1968 i greu'r swydd Ysgrifennydd Gwladol newydd sef Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor a'r Gymanwlad.
Ysgrifenyddion Gwladol dros Gysylltiadau â'r Gymanwlad
Cyfeiriadau